Nodir isod rai o'r newidiadau allweddol y mae'r Brifysgol wedi'u rhoi ar waith a gweithio arnynt gyda'r nod o gefnogi'r amgylchedd a dod yn fwy cynaliadwy.
Themâu ymchwil gwyddorau'r amgylchedd a pheirianneg
Mae Prifysgol Bangor wedi cyfuno'r gwaith ymchwil hir-sefydledig sydd ganddi a hwnnw o'r radd flaenaf yn rhyngwladol yng ngwyddorau'r amgylchedd ac mewn peirianneg electronig mewn Coleg newydd i hyrwyddo ymchwil amlddisgyblaethol arloesol i ateb yr heriau sy'n wynebu'r holl fyd o ran yr amgylchedd ac ynni.
Un nodwedd o'n hymchwil yw'r dull rhyngddisgyblaethol o weithredu sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â'r heriau cynyddol a chymhleth sy'n wynebu'r byd, gan gynnwys newid amgylcheddol byd-eang, colli bioamrywiaeth, dirywiad y pridd a defnydd anghynaladwy ar adnoddau naturiol. Mae hynny wedi'i integreiddio â'n hymchwil i beirianneg systemau dynameg cymhleth, optoelectroneg a modelu i ddatblygu technolegau newydd i fynd i'r afael â'r rheiny, ac amrywiol anghenion cymdeithasol a diwydiannol eraill. Mae’n hymchwil cadwraeth hefyd yn rhyngddisgyblaethol. Sail y gwaith hwnnw yw'r ymchwil sylfaenol ym maes gwyddorau biolegol, cemegol a ffisegol systemau naturiol.
Ynni Adnewyddadwy'r Cefnfor: Asesiad Adnoddau gwell a nodweddu sy’n sbarduno datblygiad technoleg ynni llanw ail genhedlaeth
Mae ymchwil dan arweiniad grŵp ymchwil ynni’r cefnfor Prifysgol Bangor rhwng 2009-2020 wedi hybu dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant ynni llanw rhyngwladol, o safleoedd ynni llanw 'ail genhedlaeth' llai egnïol. Gellir dweud bod ymchwil Bangor wedi ail-ganolbwyntio'r diwydiant ynni llanw, tuag at ddatblygu'r safleoedd llanw llai egnïol hyn sy'n ategu amseriad allbwn pŵer.
Mae’r set unigryw o heriau a chyfleoedd a nodwyd yn cyn cynnwys dangos sut mae’r llwyth ar dyrbinau ar y safleoedd hyn yn caniatáu defnyddio dyfeisiau cost is ac mae mwy o ofod môr ar gael ar gyfer safleoedd ynni is o gymharu â “chanolfannau” ynni uchel, a mwy o gyfleoedd ar gyfer cysylltedd grid. Ond mae safleoedd llai egnïol yn gyffredinol mewn amgylcheddau dyfnach, mwy agored, ac felly caiff yr adnodd ei ddylanwadu gan brosesau tonnau.
Mae ymchwil dan arweiniad Bangor hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu modelau peirianneg rhyngweithio tonnau-llanw newydd drwy ddylunio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf i feintioli/modelu grymoedd llanw/tonnau anghymesur ar fodelau graddfa strwythurau tyrbinau llanw, a dewis safleoedd ynni llanw ail genhedlaeth a dylunio tyrbinau llanw.
Gwella rhestr allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol y Deyrnas Unedig
Mae ymchwil nwyon tŷ gwydr Prifysgol Bangor wedi effeithio ar bolisi a diwydiant trwy gynhyrchu ffactorau allyriadau ocsid nitraidd gwlad-benodol newydd (N2O).
O ran polisi, mae tystiolaeth y Brifysgol wedi gostwng cyfraniadau N2O cyfrifedig yn sylweddol ar restr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig ac wedi cyfrannu at newidiadau i ganllawiau ar lefel ryngwladol. Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi dangos bod methan sy’n cael ei gynhyrchu gan anifeiliaid yn eu systemau treulio yn cynrychioli cyfran fwy o gyfanswm rhestr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig nag a feddyliwyd o’r blaen. Mae ymchwilwyr wedi gweithio gyda sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru i helpu diwydiannau adnabod mesurau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dŵr Uisce – Adennill Ynni yn y Diwydiant Dŵr
Mae'r sector dŵr yn hollbwysig i bob un ohonom – mae ei angen ar y gymdeithas, busnesau a'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae dosbarthu a thrin dŵr, cyn ac ar ôl ei ddefnyddio, yn broses dwys iawn o ran ynni, ac mae'r sector yn cyfrannu'n fawr at allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd.
Mae tîm o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda'r sector a gyda’r rhai sy’n defnyddio llawer iawn o ddŵr i ddod o hyd i ffyrdd o leihau'r defnydd o ynni a chyfleoedd i gynhyrchu ffynonellau trydan glân a gwres.
Dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n lleihau costau cadwraeth bioamrywiaeth leol mewn gwledydd incwm isel a chanolig
O Fadagascar i Myanmar, mae llywodraethau a diwydiant wedi newid y ffordd y maent yn gweithredu cadwraeth, er mwyn lleihau'r effeithiau negyddol ar bobl leol, o ganlyniad i waith gan Brifysgol Bangor.
Mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dangos effeithiau cymdeithasol negyddol cadwraeth ar rai o'r bobl dlotaf yn y byd.
Mae wedi newid yn sylweddol sut mae llywodraethau, diwydiant a chyllidwyr yn rhoi cadwraeth ar waith: mae un o fwyngloddiau nicel mwyaf y byd yn Ambatovy, Madagascar wedi newid sut mae'n ceisio gwrthbwyso bioamrywiaeth, mae llywodraeth Uganda wedi ymgorffori argymhellion yn ei strategaeth wrthbwyso genedlaethol, ac mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi defnyddio canfyddiadau ymchwil mewn penderfyniadau am gyllido pwll glo ym Myanmar.
Ym Madagascar, mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor wedi dylanwadu ar sut mae'r llywodraeth a chyllidwyr yn gweithredu mesurau diogelwch i leihau effeithiau negyddol ardaloedd gwarchodedig ar y tlawd.