£4.2 miliwn ar gyfer Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor i ddod â chysylltiadau band eang 5G i rannau o Ynys Môn
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2 miliwn o gyllid i Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor i ddod â chysylltiadau band eang 5G drwy geblau opteg ffibr i ardaloedd anoddach eu cyrraedd.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda chonsortiwm o gwmnïau i gynyddu'r capasiti a gwella gallu synhwyro ceblau ffibr optig a ddefnyddir i ddarparu band eang symudol cyflymach a mwy dibynadwy, a bydd mwy na 400 o safleoedd ar Ynys Môn nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn yn cael eu treialu. Bydd rhan darparu band eang y project yn para 18 mis a bydd yn caniatáu i gwsmeriaid gael eu cysylltu cyn gynted ag y bydd y safle cyntaf yn fyw a bydd yn parhau drwy 2025.
Mae’r DSP yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i fuddsoddi yn y prosiect hwn, ynghyd â chonsortiwm 5G EDC a’n partneriaid, rydym yn awyddus i’r cam cyntaf o’r project cychwyn gyda’r dyhead o ehangu yn y dyfodol agos
Sefydlwyd y Ganolfan DSP yn 2019 gyda £3.9m o Gronfeydd yr UE trwy gyllid ERDF ac yn ddiweddar dyfarnwyd cyllid ychwanegol o £3m iddi drwy Uchelgais Gogledd Cymru. Mae'r project band eang hwn gwerth £4.2m hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn.