Gwnaed hyn yn bosibl drwy gais llwyddiannus gan y Gwasanaethau Campws am gyllid Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Talodd hyn am bedwar o’r cerbydau trydan. Yn ogystal, defnyddiwyd Cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i brynu chwe cherbyd ychwanegol.
Mae newid y fflyd i fod yn un trydan yn cyfrannu at uchelgais y Brifysgol i fod yn brifysgol gynaliadwy ac yn cyfrannu ymhellach at nod ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Fel yr esbonia Meryl Wyn-Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cyfleusterau y Gwasanaethau Campws:
“Fe wnaeth y cyllid yn ein galluogi ni i gyfnewid y cerbydau disel am rai trydan ac erbyn hyn mae’r Adain Ddiogelwch, ar y cyfan, ddim ond yn defnyddio cerbydau trydan. Mae’r Adain Cyfleusterau wedi cael gwared ar y ddau gerbyd disel olaf oedd ganddyn nhw, a bellach mae’r adain yn defnyddio cerbydau trydan, ar wahân i’r adegau pan mae angen llogi fan y mae ei chefn yn codi i symud llwythi mawr a thrwm.
“Ar hyn o bryd mae yna 16 cerbyd trydan yn ein fflyd ac fe fydden ni’n hoffi symud ymhellach i lawr y llwybr trydan yn y dyfodol.”
Esboniodd Meryl fod dau gerbyd arbenigol yn rhan o’r fflyd - tryc tipio a fan cawell.
"Mae’r Tîm Tiroedd a Thirlunio wedi dweud eu bod yn gallu gweithio’n fwy effeithiol ers dechrau defnyddio’r tryc tipio. Mae gallu’r tryc i gario llwythau mwy wedi torri ar nifer y teithiau y mae’n rhaid eu gwneud i’r safle compostio, ac mae ei allu i dipio wedi cwtogi ar yr amser mae’n ei gymryd i ddadlwytho. Mae’r ramp sydd gan y cerbyd cawell hefyd yn hynod hwylus ac yn ei gwneud lawer yn haws i’r Tîm Cyfleusterau lwytho biniau ac ailgylchu."