Sesiynau Dydd Sul gan Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol ar fin cynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae’r darlithoedd wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr sy’n meddwl am astudio yn y Brifysgol. Wedi'u cynllunio i roi blas i chi o sut beth yw astudio ar lefel Prifysgol, maen nhw'n ffordd wych o ddod i adnabod maes pwnc yn well a chael blas ar yr hyn sydd i ddod! Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn darlithoedd drwy Gyfrwng y Gymraeg a Chyfrwng Saesneg. Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno’n rhithiol trwy Microsoft Teams. Trwy gydol y sesiynau anogir myfyrwyr i gymryd rhan ac mewn dadleuon a thrafodaethau.
Sesiynau ar y gweill
24/11/2024, 11yb - Navigating the Moral Landscape: Ethical Considerations and Responsibilities in the Treatment of Asylum Seekers (Sesiwn Saesneg) - Ymunwch mewn trafodaeth bwysig am yr ystyriaethau moesegol a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth drin ceiswyr lloches. Bydd y ddarlith yn archwilio’r dirwedd foesol sy’n ymwneud â pholisïau mewnfudo, hawliau dynol, a’r heriau y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu. Byddwn yn archwilio cyfyng-gyngor moesegol cymhleth, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng diogelwch gwlad a rhwymedigaethau dyngarol, yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol y systemau lloches. Trwy astudiaethau achos a deialog feirniadol, bydd y cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o'r goblygiadau moesegol sy'n llywio ein hymatebion i geiswyr lloches. Ymunwch â ni i drafod y mater moesol pwysig hwn ac ystyried y cyfrifoldebau cyffredin sydd arnom fel dinasyddion y byd.
01/12/2024, 11yb - Illuminating the Darkness: The Winter Solstice in Pagan Traditions (Sesiwn Saesneg) - Archwiliwch dapestri cyfoethog y traddodiadau paganaidd mewn darlith ddadlennol ynglŷn â Heuldro'r Gaeaf. Cawn archwilio arwyddocâd y digwyddiad nefol hwn, a dathlu dychweliad y golau yng nghanol diwrnodau tywyllaf y flwyddyn. Darganfyddwch sut roedd diwylliannau’r hen fyd yn nodi'r talm canolog hwn o amser trwy ddefodau, dathliadau a symbolaeth, gan bwysleisio themâu o aileni ac adnewyddu. O ddathliadau’r Nadolig yng Ngogledd Ewrop i seremonïau heuldro arferion paganaidd amrywiol, bydd y ddarlith yn amlygu’r ffyrdd amrywiol y mae cymunedau’n dathlu’r gwahanol dymhorau. Ymunwch â ni mewn darlith hynod sy'n datgelu'r ystyron dwfn a'r traddodiadau sy'n ymwneud â Heuldro'r Gaeaf mewn credoau paganaidd.
18/12/2024, 5pm - Rhifyn Arbennig y Nadolig: Archwilio’r Gorffennol: Arferion, Hanes a Threftadaeth (Sesiwn Saesneg) - Sud ‘da chi’n meddwl oedd tywysogion yn dathlu’r ‘Dolig yn yr oesoedd canol? ‘Da chi’n dipyn o ffan calendrau adfent ac isio dysgu mwy am arferion Nadoligaidd a’n synnwyr o amser? Efallai fod ganddoch chi ddiddordeb yn y Nadolig Fictorianaidd a’r modd y gwnaeth siopau a ‘phethau’ ddod yn nodwedd o’r Nadolig cyfoes? Os felly, ymunwch â’n haneswyr a’n harchaeolegwyr wrth iddynt gyflwyno cyfres o sgyrsiau cyflym ar amrywiaeth o destunau’n ymwneud â Nadoligau’r gorffennol, eu traddodiadau a’u treftadaeth. Byddwn yn cloi’r sesiwn gyda thrafodaeth fer ar ddiwylliant poblogaidd a’r Nadolig. Dewch i dreulio awr ddifyr a hwyliog gyda ni (mins peis yn opsiynol!).