Rheoliadau Cyffredinol Gwarchod Data (GDPR) i Ymchwilwyr (Webinar)
Yn y sesiwn hon amlinellir gofynion Rheoliadau Cyffredinol Gwarchod Data (GDPR) a Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd cyfle wedyn i ymchwilwyr gael gwybodaeth bellach ar faterion penodol perthnasol i'w diddordebau ymchwil ac i ymdrin â senarios penodol.
Bydd y rhain yn cynnwys:
- Beth yw’r rheolau newydd ar gael cydsyniad ar gyfer ymchwil?
- Pa mor hir y dylwn i fod yn cadw fy nata ymchwil?
- Beth mae GDPR yn ei ddweud am siwdoanonymeiddio / anonymeiddio?
- Pa fesurau diogelwch ddylwn i fod yn eu defnyddio ar gyfer fy ymchwil dan GDPR?
- Beth am ddadansoddi data eilaidd?