“The Regulation of Insurance in China” gan yr Athro Zhen Jing
Llyfr newydd: Cafodd “The Regulation of Insurance in China” gan yr Athro Zhen Jing (Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor) ei gyhoeddi’n ddiweddar gan Routledge. Mae'r llyfr hwn yn cynnwys 24 pennod a 1472 tudalen. Mae'n darparu dadansoddiad cynhwysfawr a systematig o reolau'r gyfraith a rheoliadau gweinyddol diwydiant yswiriant a marchnad yswiriant Tsieina, gan gwmpasu pedair lefel o hierarchaeth reoleiddio - y gyfraith statudol, y rheoliadau a ddeddfwyd gan y llywodraeth ganolog, y rheoliadau a ddatblygwyd gan awdurdod goruchwylio a rheoleiddio yswiriant y Cyngor Gwladol, a hunanreoliadau’r diwydiant yswiriant. Mae'r llyfr hwn yn trafod y rhan fwyaf o agweddau ar y strwythur rheoleiddio yn Tsieina, gan gynnwys ffurfio cwmni yswiriant, ei gamau rheoli mewnol a rheoli risg, llywodraethu corfforaethol, gweithredu busnes yswiriant, solfedd, buddsoddi mewn cronfeydd yswiriant, rôl cyfryngwyr yn y farchnad, rheoleiddio rhai o’r mathau pennaf o yswiriant, rheoleiddio sefydliadau yswiriant cydfuddiannol, amddiffyn deiliaid polisi, a hunanreoleiddio’r diwydiant.
Gellir rhannu cyfraith yswiriant yn fras yn ddau bwnc gwahanol. Un yw cyfraith contractau yswiriant, sy'n llywodraethu'r cysylltiadau cytundebol rhwng yr yswiriwr a'r yswirai. Y llall yw rheoleiddio yswiriant, y gellir ei ddiffinio'n gyffredinol fel mecanwaith a ddefnyddir i reoli ymddygiad cyfranogwyr mewn marchnad yswiriant. Mae agwedd gontractiol Cyfraith Yswiriant Tsieina wedi cael sylw mewn llyfr blaenorol gan yr Athro Zhen Jing: Chinese Insurance Contracts: Law and Practice y dyfarnwyd Gwobr Llyfrau Cymdeithas Cyfraith Yswiriant Prydain iddo yn 2017. Agwedd rheoleiddio Cyfraith Yswiriant Tsieina sy’n cael sylw yn y llyfr newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021