Dr Stefan Machura yn cael ei ethol i fwrdd ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol
Yn ddiweddar, cafodd Stefan Machura, sef uwch Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ei ethol i fwrdd y Pwyllgor Ymchwil ar Gymdeithaseg y Gyfraith, sydd yn adran o’r Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol. Mae gan y Pwyllgor aelodau dros y byd, a nifer o weithgorau arbenigol. Mae ei Sefydliad Rhyngwladol yn Onati a gwlad y Basg Sbaeneg yn cynnig cyfleoedd i academyddion a myfyrwyr ôl-radd i astudio a chyfarfod am gynhadleddau. Bydd Dr Machura yn cadeirio bwrdd golygyddol newyddlen y Pwyllgor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2014