Gwneud ei farc ar restr fer y British Education Awards
Mae Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr y British Education Award (BEA). Mae’r Gwobrau hyn yn hybu arbenigedd o fewn y gyfundrefn addysg ym Mhrydain ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.
Graddiodd Mark, sy’n hanu o Saddleworth, Oldham, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes a Newyddiaduraeth gan ennill marc o 84%.
Llwyddodd Mark, sy’n gyn-fyfyriwr Oldham Sixth Form College, i gyrraedd y brig gan ennill Gwobr Dr John Robert Jones y Brifysgol, a ddyfernir i’r myfyriwr neu’r fyfyrwraig orau sydd wedi llwyddo i ennill y marciau uchaf ar draws pob pwnc yn y Brifysgol.
Mae bellach wedi ei enwebu ar gyfer gwobr y British Education Awards a bydd yn mynychu’r Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Hilton, Manceinion ar Ionawr 31 2019. Bydd Mark mewn cwmni da, wedi i un o raddedigion y Brifysgol, Maisie Prior ennill y Wobr Addysg Uwch y llynedd.
Enwebwyd Mark gan Dr Nikolaos Papadogiannis, darlithydd mewn Hanes Modern a Chyfoes, a ddywedodd:
“Roedd Mark yn fyfyriwr penigamp ac roedd ei berfformiad yn neilltuol yn achos pob modiwl.
Enillodd dair gwobr yn ystod ei seremoni raddio. Yn ogystal â’r brif wobr, enillodd wobrau’r Ysgol am y marc uchaf ar gyfer traethawd hir a’r wobr am y marc uchaf un. Roedd Mark hefyd yn neilltuol yn y modd yr oedd yn cydweithio gyda myfyrwyr eraill: roedd ymysg y rhai oedd yn parchu barn eraill, hyd yn oed pan yr oedd yn anghytuno â hwy. Roedd yn mynd ati i annog eraill i gyfrannu.”
Bellach mae Mark, 22 oed, yn Is-Lywydd (Addysg) Undeb Myfyrwyr Bangor. Meddai Mark am ei gyfnod fel myfyriwr:
“Roedd yr Ysgol lle bûm yn astudio ynddi yn wych. Roedd y gofal bugeiliol yn well nag y byddech yn ei ddisgwyl, gydag academyddion ar gael i roi cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr.”
“Mwynheais y cwrs yn fawr. Roedd dewis eang o fodiwlau ac asesiadau, ac mae hynny’n hanfodol ar gyfer ennill profiad o sgiliau trosglwyddadwy.”
Dewisodd Mark astudio ym Mhrifysgol Bangor gan ei fod yn un o’r ychydig rai i gynnig yr union gwrs yr oedd yn dymuno’i ddilyn. Ychwanegodd:
“Mae’r myfyrwyr yn dod i adnabod y darlithwyr wrth eu henwau cyntaf, drwy ymdeimlad cymunedol y Brifysgol, a chan ein bod yn Brifysgol ganolig ei maint.”
“Gan fy mod yn berson sy’n mwynhau’r awyr agored, dim ond un lle oedd yn gweddu gen i. Mae Gogledd Cymru’n ardal anhygoel i dreulio cyfnod prifysgol ac ni fuaswn yn newid dim ar y profiadau yr wyf wedi eu hennill yma.”
Mae Mark yn mwynhau’r her o fod yn Is-Lywydd dros Addysg yn Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, lle mae’n cynrychioli barn a diddordebau academaidd y myfyrwyr ac yn cydweithio gyda’r Brifysgol er mwyn ymestyn profiad y myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018