Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr arloesol ar hanes mwyngloddio lleol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi lansio llyfr am y pyllau glo yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen ar ôl dechrau gweithio ar y llyfr yn 8 oed.
Gorffennodd Ioan Lord, 20, myfyriwr Hanes Cymru o Gwm Rheidiol ger Aberystwyth, y llyfr, ‘Rich Mountains of Lead’: The Metal Mining Industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen, y llynedd.
Mae llyfr Ioan yn edrych yn fanwl ar hanes mwyngloddiau plwm, arian a sinc Cwm Rheidol ac Ystumtuen. Mae'n astudio twf a chwymp y diwydiant mwyngloddio yn y rhan yma o'r Canolbarth sydd yn aml yn angof.
Mae'r llyfr yn cynnwys hanesion unigol pob pwll yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen yn ogystal ag archwiliadau cyfoes ac arolygon arloesol o'r ddaear; safleoedd sydd oll wedi cyfrannu at ffurfio un o'r diwydiannau mwyaf a pwysicaf a welwyd yng Ngheredigion.
Mae Ioan wedi bod yn astudio ac yn archwilio'r hen fwyngloddiau o gwmpas Aberystwyth ers yn 6 oed, a gychwynnodd ysgrifennu'r llyfr yn 8 oed. Ar ôl degawd o ymchwil pellach, a gyda chefnogaeth Rheilffordd Bro Rheidol sydd wedi cyhoeddi'r llyfr academaidd unigryw hwn, mae Ioan wedi cyflawni ei freuddwyd. Mae ei lyfr yn torri tir newydd wrth archwilio nid yn unig hanes cwm diwydiannol na astudiwyd yn fanwl erioed o'r blaen, ond hefyd fywydau ac etifeddiaethau cannoedd o ddynion, menywod a phlant yr oedd eu bywydau'n ymwneud â'r diwydiant mwyngloddio.
Pan nad yn gweithio fel gard a dyn tân locomotif ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, bu Ioan yn gwirfoddoli i guradu ac arddangos amgueddfeydd diwydiannol yng Nghorris a'r prif bwll yn Llywernog ym Mhonterwyd.
Mae’r llyfr yn ddiweddglo i flynyddoedd lawer o ymchwil archifol, archaeoleg a chloddiadau ac archwiliadau tanddaearol sy'n clymu hanes gyda darganfyddiadau diddorol a wnaed yn ddiweddar, cannoedd o droedfeddi islaw'r ddaear yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen. Mae'n dwyn ynghyd archif eang o hen ffotograffau, dogfennau, mapiau a llyfrau sy'n dyddio'n ôl cyn belled â 1670. Mae'n dangos pwysigrwydd diwydiant 4,000 mlwydd oed yn lleol a chenedlaethol, sy'n haeddu’r gydnabyddiaeth.
Yn falch iawn o’i gyflawniad, dywedodd Ioan: "Roedd rhan fwyaf o'm hamser hamdden yn cynnwys ysgrifennu'r llyfr, gan mai dyna ddwi'n ei wneud i ymlacio gyda'r nos! Ar ôl gorffen fy ngwaith prifysgol, byddwn yn agor y ffeil ar y llyfr ac yn treulio 4 neu 5 awr yn ysgrifennu ac yn ymchwilio i ymlacio gyda'r nos. Rwyf hefyd wedi treulio sawl penwythnos o dan ddaear, yn palu ac yn arolygu daeareg ac archaeoleg ddiwydiannol y gweithfeydd tanddaearol trwy abseilio a gwaith rhaff i ddringo i lawr y siafftiau."
Mae llyfr Ioan ar gael trwy siop Rheilffordd Dyffryn Rheidiol. Os hoffech gael copi, gallwch ei brynu drwy eu siop eBay neu ffonio 01970 625829 i archebu eich copi.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018