Prifysgol Bangor yn cydnabod darlithwyr am eu cyfraniad at addysgu a dysgu
Yn ddiweddar, bu i ddau ddarlithydd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas dderbyn gwobrau gan Brifysgol Bangor i gydnabod eu cyfraniad at addysgu a dysgu.
Fe wnaeth Rhian Lloyd, sy' Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, a Dr Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol ac Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, dderbyn l yng Nghynhadledd Addysgu a Dysgu CELT (Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu) y Brifysgol.
Nod y gwobrau yw cydnabod gwaith diflino (ac yn aml, gwaith nad yw'n cael ei gydnabod) unigolion sy'n ymwneud â'r profiad addysgu a dysgu ym Mangor.
Mae'r Ysgol yn llongyfarch y ddwy yn fawr ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015