Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg - Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni
Bydd Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, yn cynnal sesiynau ar ‘Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg’ yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Ymunwch â ni ar Stondin Prifysgol Bangor, rhwng 2 a 5 o’r gloch ar Ddydd Llun yr 1af o Awst – mae croeso gynnes i bawb.
Y Gymraeg ar lwyfannau digidol
Dr Cynog Prys gyda Shan Pritchard a Natalie Jones yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil PhD a noddir gan Cwmni Da ac S4C, dan raglen KESS Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Generation Beth (cyfres deledu S4C)
Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Dr Cynog Prys gyda Phil Stead o Gwmni Da ar yr arolwg o agweddau pobl ifanc ar draws Ewrop.
Y Dyfodol Digidol
Sesiwn gan Delyth Prys, Dr Tegau Andrews a Gruffudd Prys o’r Uned Technolegau Iaith yn dathlu’r adnoddau terminolegol diweddaraf, cyfres e-lyfrau DECHE, ac yn cyflwyno Macsen, prototeip o’r cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru
Gwin neu ddiod ysgafn i orffen y prynhawn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016