Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Edrych ar ôl eich corff
Mae'r Brifysgol yn lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau awyr agored neu dan do. Neilltuwch dipyn o amser i wneud ymarfer corff a thrwy hynny byddwch yn teimlo'n hapusach, yn gryfach ac yn llai tueddol o flino.
Mae edrych ar ôl eich corff trwy weithgarwch corfforol yn dda am lawer o resymau ac mae hefyd yn dda i'r meddwl - yn un peth bydd yn tynnu eich sylw oddi wrth hwrli bwrli gwaith a bywyd teuluol!
Mae gweithgarwch corfforol yn cryfhau'r cyhyrau sy'n galluogi ein calon, ysgyfaint a chylchrediad y gwaed i weithio'n iawn. Mae hynny’n lleihau perygl cael clefyd y galon a strôc . Gall ymarfer corff helpu hefyd gyda’r canlynol:
- Colli pwysau a chynnal pwysau corff iach.
- Diogelu rhag osteoporosis ('esgyrn yn teneuo'). Mae tynnu ar yr esgyrn gan y cyhyrau yn ysgogi celloedd sy’n gwneud esgyrn a thrwy hynny gryfhau’r esgyrn.
- Mae ymarfer corff hefyd yn gwella ansawdd ein cwsg. Cwsg yw'r ffordd mae'r corff yn trwsio unrhyw ddiffygion a’i wneud yn barod i ymladd heintiau. Ceisiwch gael 7-8 awr o gwsg bob nos gan geisio mynd i’ch gwely ar adeg rheolaidd.
Os nad ydych yn gwneud unrhyw ymarfer o gwbl, ceisiwch anelu at wneud 30 munud y dydd, dri diwrnod yr wythnos. Ni ellwch 'storio' manteision gweithgarwch corfforol. Mae angen i chi ei wneud yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Chwaraeon Maes Glas a threfnu i gael rhaglen ffitrwydd personol (Ffôn 01248 382571). Mae ganddynt ystafelloedd a dosbarthiadau ffitrwydd sy'n darparu ar gyfer pawb ewch i'w gwefan.
Os ydy cerdded yn siwtio chi well, mae'r tudalen hwn yn manylu teithiau rhyng-safle, amser cinio a hamdden i gerdded i gynyddu eich gweithgarwch corfforol, ac i fynd â chi i'r 10,000 o gamau a argymhellir bob dydd.
Rydym hefyd efo gwefan beicio penodol yn manylu'r cyfleusterau lleol gan gynnwys storio diogel a chawodydd a hyd yn oed rhai ffyrdd lleol.