Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Iechyd Dynion - Canser y Fron
Nid yw canser y fron yn gyfyngedig i fenywod. Er bod gan ddynion lawer llai o feinwe yn y fron na menywod, mae ganddynt gelloedd yn y fron sy’n gallu troi’n ganseraidd. Mae menywod tua 100 gwaith yn fwy tebygol o gael canser y fron, ond gall unrhyw ddyn ddatblygu canser y fron. Mae canser y fron ar ddynion yn fwyaf cyffredin ymysg dynion rhwng 60 a 70 oed.
Gall gwybod beth yw arwyddion a symptomau canser y fron helpu i achub eich bywyd, oherwydd po gynharaf mae’r clefyd yn cael ei ddarganfod, mwyaf eich dewisiadau o ran triniaeth a’ch gobaith o wella. Nid yw y rhan fwyaf o lympiau yn y fron yn ganseraidd. Fodd bynnag, yn achos dynion a menywod fel ei gilydd, lwmp neu dewychu yn y fron yw’r arwydd mwyaf cyffredin o ganser y fron, ac yn aml, mae’r lwmp yn ddi-boen.
Mae arwyddion eraill o ganser y fron yn cynnwys:
- Pantiau neu rychau ar y croen
- Datblygiad gwrthdyniad neu bant newydd ar y deth
- Cennau coch ar y deth neu ar groen y fron
- Gollyngiad digymell clir neu waedlyd o’r deth
Ffactorau risg: Mae ffactor risg yn unrhyw beth sy’n eich gwneud yn fwy tebygol o gael clefyd penodol. Fodd bynnag, nid yw pob ffactor risg yn gyfartal. Nid oes modd newid rhai, megis eich oedran, eich rhyw a’ch hanes teuluol, ond mae gennych rywfaint o reolaeth ar rai eraill, yn cynnwys ysmygu a diet gwael, sy’n ddewisiadau personol.
Nid yw presenoldeb un neu hyd yn oed nifer o ffactorau risg o reidrwydd yn golygu y byddwch yn sâl – ni fydd rhai dynion sydd â mwy nag un ffactor risg fyth yn cael canser y fron, tra bo eraill heb unrhyw ffactorau risg yn ei gael.
Mae ffactorau a all eich gwneud yn fwy tueddol o gael canser y fron yn cynnwys:
- Oedran. Mae canser y fron ar ei fwyaf cyffredin ar ddynion rhwng 60 a 70, gyda’r oed cyfartalog yn 67.
- Hanes yn y teulu. Os oes gennych berthynas agos, fel mam neu chwaer, â chanser y fron, mae mwy o bosibilrwydd y byddwch chithau’n datblygu’r clefyd. Mae gan tuag un o bob pump o ddynion â chanser y fron berthynas sydd hefyd wedi’i gael. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith fod gennych hanes teuluol o ganser y fron yn golygu ei fod yn etifeddol.
- Clefyd yr iau. Os oes gennych chi glefyd yr iau, fel sirosis yr iau.
- Gormod o bwysau. Gall gordewdra fod yn ffactor risg ar gyfer canser y fron mewn dynion, am ei fod yn cynyddu nifer y celloedd braster yn y corff. Mae celloedd braster yn troi androgenau’n estrogen, sy’n cynyddu faint o oestrogen yn eich corff, ac felly’n ychwanegu at eich risg o gael canser y fron.
- Defnydd gormodol o alcohol. Os ydych yn yfed llawer o alcohol, mae gennych fwy o risg o gael canser y fron.
Sgrinio a hunan-archwilio: Oherwydd nad yw canser y fron ymhlith dynion mor gyffredin ag yn achos menywod, nid yw’r GIG yn cynnal mamogramau sgrinio rheolaidd. Felly, byddwch yn ymwybodol o’ch bronnau. Mae hyn yn golygu dod i wybod beth sy’n arferol o ran golwg a theimlad eich bronnau, fel y gallwch sylwi ar unrhyw newid, a’u cael wedi eu harchwilio mor fuan â phosib. Yn benodol, dylech chwilio am lympiau neu feinwe’n tewhau a'r symptomau canlynol:
- Poen
- Rhedlif o'r deth
- Ymddangosiad neu deimlad anarferol
- Y croen yn ‘clymu’, fel petai’n cael ei dynnu o'r tu mewn
Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan ganlynol: www.menshealthforum.org.uk