Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
Mae canser yr ofari yn effeithio ar dros 6,500 o fenywod ym Mhrydain bob blwyddyn. Hwn yw'r pumed canser mwyaf cyffredin ymysg menywod ar ôl canser y fron, canser y coluddyn, canser yr ysgyfaint a chanser y groth. Mae yna nifer o wahanol fathau o ganser ofarïaidd, ond canser ofarïaidd epithelaidd, neu ganser yr haenau arwyneb yr ofari yw’r un mwyaf cyffredin o lawer, ac mae’n cyfrif am 90 y cant o achosion.
I gael gwybodaeth fanwl am y symptomau, diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser ofarïaidd dilynwch y ddolen hon.
Dylai menywod sy'n dioddef arwyddion BEAT canser ofarïaidd yn rheolaidd weld eu meddyg
B - Bola chwyddedig sy'n barhaus ac nad yw'n mynd i ffwrdd
E - Anhawster bwyta ac yn teimlo'n llawn yn gynt
A - Poen yn y bol a pelfig ydych yn teimlo bron bob dydd
T - Dywedwch wrth eich meddyg am hyn ac unrhyw symptomau eraill
Beth am ddilyn eich symptomau gyda'r Tracker Symptomau BEAT