Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Gwaed yn Wrin - Gadewch i ni fod yn glir
… am ganser yr arennau ... a chanser y bledren
Mae dros 20,000 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o ganser y bledren neu'r arennau bob blwyddyn. Mae'r ddau ganser yn effeithio ar ddynion a menywod, er eu bod yn fwy cyffredin mewn dynion. Gall canser y bledren a'r arennau effeithio ar bobl o bob oed, ond maent yn fwy cyffredin mewn pobl dros 50.
Mae ysmygwyr yn wynebu risg llawer uwch o gael y math yma o ganser. Ymhlith y pethau eraill sy'n cynyddu'r risg o ganser y bledren a/neu ganser yr arennau mae:
• Bod dros bwysau neu'n ordew
• Rhai swyddi, oherwydd amlygiad i rai cemegau
• Cyflyrau meddygol eraill, megis methiant yr arennau
• Hanes teuluol o ganser
Yn y DU, mae tua 9,494 o bobl yn marw o ganser yr arennau neu’r bledren bob blwyddyn, ond nid felly y dylai fod. Mae gwybod beth i chwilio amdano yn achub bywydau. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw waed yn eich wrin, hyd yn oed os mai dim ond unwaith oedd hynny, dywedwch wrth eich meddyg ar unwaith. Fwy na thebyg, nid yw’n ddim byd difrifol, ond mae’n haws trin y canserau hyn wrth eu canfod yn gynnar.
Edrychwch cyn i chi fflysio - Os nad ydych yn edrych efallai na fyddwch yn sylwi fod gwaed yn eich wrin. Felly cofiwch edrych cyn i chi fflysio'r toiled.
Dyma fideo gwych ar sut i adnabod yr arwyddion a beth i'w wneud
Gwyliwch y fideo yma - a'i chi yw hyn?
… am sut i’w adnabod
Mae gwaed yn eich wrin yn un o brif symptomau’r ddau fath o ganser.
Mae symptomau eraill canser y bledren yn cynnwys:
• Cystitis (haint yn y llwybr wrinol) sy'n anodd ei drin neu sy’n dod yn ôl yn gyflym ar ôl cael ei drin
• Poen wrth fynd i'r toiled
Mae symptomau eraill canser yr arennau yn cynnwys:
• Poen ochr, o dan yr asennau, sy'n ddim yn mynd i ffwrdd
• Colli pwysau
… pa mor bwysig yw hi eich bod yn mynd i weld eich meddyg
Nid ydych yn gwastraffu amser unrhyw un drwy fynd i weld eich meddyg i drafod eich symptomau, ac os nad oes dim byd mawr o’i le, fe gewch chi dawelwch meddwl. Ond os yw’n gyflwr megis canser y bledren neu'r arennau, mae ei ganfod yn gynnar yn ei wneud yn haws i'w drin. Gallai mynd i weld eich meddyg yn gynnar achub eich bywyd.
Efallai y bydd rhai symptomau’n cael eu hachosi gan haint ar y bledren neu gerrig yn yr arennau, a bydd angen eu trin. Ond peidiwch â cheisio gwneud diagnosis eich hun. Ewch i weld eich meddyg yn awr i gael gwybod yn iawn.
Ewch yn ôl at eich meddyg os bydd eich symptomau'n parhau
Os ydych wedi bod at y meddyg, ond bod y symptomau heb fynd i ffwrdd, bydd ef neu hi eisiau gwybod. Mae'n bwysig gweld eich meddyg eto os yw eich symptomau'n parhau.
Gofalu am eraill
Os ydych yn adnabod unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r symptomau hyn, mynnwch eu bod yn mynd i weld eu meddyg.
… am sut mae gweld eich meddyg yn gynnar yn gallu achub eich bywyd
"Sylwais ar waed yn fy wrin yn hwyr yn 2013. Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le a wnes i wneud apwyntiad i weld fy meddyg ar unwaith. Anfonodd fi i’r ysbyty am brofion, a ddangosodd fod gen i ganser y bledren. Rydw i mor falch fy mod i wedi gweithredu'n gyflym a bod fy nghanser wedi cael ei ddal yn gynnar. Mae fy ngŵr a minnau yn mwynhau hwylio, a chwe mis ar ôl fy nhriniaeth aethom i hwylio o amgylch Prydain."
Geraldine Sinfield, 67 oed
"Pan wnes i ddweud wrth fy ngwraig fy mod i wedi gweld gwaed yn fy wrin, dywedodd y dylwn wneud apwyntiad i weld fy meddyg cyn gynted ag y bo modd. Ar y dechrau, oherwydd nad oeddwn i’n teimlo unrhyw boen, doeddwn i ddim yn siŵr os oedd angen i mi fynd. Ond dwi'n falch fy mod wedi gwrando arni. Anfonodd y meddyg fi i gael profion ac fe ges i ddiagnosis o ganser yr arennau. Ers cael triniaeth yn 2004, dydw i ddim wedi cael unrhyw broblemau ac rydw i’n dal i weithio’n rhan amser fel darlithydd prifysgol. "
Pat Hanlon, 73 oed
… am leihau eich risg o gael canser
Mae tua 338,623 o bobl yn cael diagnosis o ganser yn y DU bob blwyddyn, ond gallai tua 4 o bob 10 achos gael eu hatal drwy newid ffordd o fyw, gan gynnwys:
Rhoi'r gorau i ysmygu
Mae ysmygu‘n cynyddu'r risg o gael sawl math o ganser. Os ydych yn ysmygu, y peth gorau y gallwch ei wneud o ran eich iechyd yw rhoi'r gorau iddi. Mae digon o gefnogaeth a help ar gael.
Edrychwch ar ôl eich hun
Gall bod dros bwysau neu'n ordew gynyddu eich risg o gael rhai mathau o ganser. Ceisiwch gynnal pwysau iach a bod yn egnïol. Nofio, beicio, dawnsio, cerdded – gorau po fwyaf y gallwch ei wneud. Ceisiwch fwyta diet iach a chytbwys hefyd, gyda digon o ffrwythau a llysiau.
Torrwch i lawr ar alcohol
Gall yfed gormod o alcohol arwain at nifer o broblemau iechyd ac mae'n gysylltiedig â rhai mathau o ganser. Drwy yfed llai, byddwch yn lleihau eich risgiau iechyd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth ar sut i leihau eich risg o ganser, ewch i nhs.uk/reduce-your-risk