Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
Dylai merched, hen ac ifanc, ymarfer ymwybyddiaeth o'r fron. Mae hyn yn golygu dod i wybod beth sy’n arferol o ran golwg a theimlad eich bronnau, fel y gallwch sylwi ar unrhyw newid, a’u cael wedi eu harchwilio mor fuan â phosib. Yn benodol, dylech chwilio am lympiau neu feinwe’n tewhau a'r symptomau canlynol:
- Poen
- Rhedlif o'r deth
- Ymddangosiad neu deimlad anarferol
- Y croen yn ‘clymu’, fel petai’n cael ei dynnu o'r tu mewn
Cofiwch, mae'r rhan fwyaf o lympiau yn ddiniwed, yn enwedig os ydych chi'n ifanc, ond dylech gael archwiliad gan feddyg mor fuan â phosib beth bynnag. Nid yw beth yn union sy’n achosi canser y fron yn hysbys eto, ond mae ffactorau risg penodol wedi cael eu darganfod, sef:
- Mynd yn hŷn - mae 80 y cant o’r achosion o ganser y fron yn digwydd mewn merched ar ôl y menopos
- Peidio cael plant neu gael plant yn hwyr mewn bywyd
- Dechrau eich mislif yn gynnar neu'r menopos yn hwyr
- Cymryd HRT
- Hanes teuluol sylweddol o ganser y fron
O dan Raglen Sgrinio Serfigol y GIG, mae pob menyw rhwng 25 a 65 oed yn cael ei gwahodd yn rheolaidd i gael prawf ceg y groth. Mae'r system yn un awtomatig, felly os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu, dylech dderbyn llythyr yn gofyn i chi wneud apwyntiad.
O ganlyniad i ymchwil oedd yn gwerthuso pa mor aml y dylid sgrinio ceg y groth, mae merched bellach yn cael eu gwahodd i gael eu prawf cyntaf yn 25 oed. Maent wedyn yn cael eu gwahodd bob tair blynedd hyd at 49 oed, a phob pum mlynedd o 50 a 64. O 65 oed ymlaen, dim ond y rhai sydd wedi cael profion annormal sy'n cael cynnig prawf arall.
Dylech dderbyn canlyniad ysgrifenedig eich prawf ceg y groth o fewn chwe wythnos. Bydd y canlyniad naill ai’n normal (canlyniad negyddol) neu’n annormal (canlyniad cadarnhaol). Nid yw’n bosib cwblhau cyfran fechan o’r profion oherwydd prinder celloedd gweladwy ar y sleid. Mewn achosion o'r fath, cewch wahoddiad i gael prawf arall.
I gael mwy o wybodaeth gan Bron Brawf Cymru, ewch i'r wefan hon.
I gael mwy o wybodaeth gan Sgrinio Serfigol Cymru, ewch i'r wefan hon.