Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Iechyd Dynion - Problemau Prostad
Mae'r chwarren brostad yn rhan o system atgenhedlu dynion, ac mae'n bwysig iawn i fywyd rhywiol dyn, gan gynhyrchu rhywfaint o'r hylif mewn semen. Pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda'r brostad, gall effeithio ar fywyd rhywiol dyn a’i iechyd hirdymor.
Mae tri phrif beth a all fynd o'i le ar y brostad - hyperplasia prostatig diniwed (benign prostatic hyperplasia) , llid y brostad a chanser y brostad.
- Mae clefyd diniwed neu hyperplasia prostatig diniwed (BPH) yn gyffredin mewn dynion hŷn, gyda'r brostad yn tyfu’n fwy yn araf. Gall achosi anhawster neu boen wrth basio dŵr wrth i'r brostad sy'n tyfu bwyso ar y tiwb sy'n cludo dŵr o'r bledren. Mae nifer o driniaethau ar gael. Mae modd trin BPH ac mae'n anghyffredin mewn dynion o dan 50.
- Gall llid y brostad (prostatitis) effeithio ar ddynion o bob oedran a gall achosi poen ac anhawster wrth basio dŵr. Mae modd drin prostatitis.
- Mae'r risg o ganser y brostad yn mynd yn uwch mewn dynion hŷn. Mae'r symptomau'n debyg i broblemau prostad eraill, yn enwedig anhawster wrth basio dŵr, ond mae symptomau eraill yn cynnwys poen yng ngwaelod y cefn, poen yn y cluniau neu'r pelfis a methu cael codiad. Gall yr holl symptomau hyn hefyd gael eu hachosi gan broblemau eraill.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan ganlynol: www.menshealthforum.org.uk