Datrys Anghydfodau
Gall fod yn anodd datrys anghydfod weithiau gan ei fod yn cynnwys mwy nag un person neu grŵp o unigolion. Yn y sefyllfa hon, mae'r brifysgol yn cynnig y cyfle i gyfryngu trwy drydydd parti i ddatrys problemau rhwng staff.
Cyfryngu
O ran rheoli perfformiad, gall cysylltiadau gwaith arferol gael eu hamharu oherwydd gwrthdaro rhwng staff. Gall hyn godi am nifer o resymau fel nodau aneglur, gwrthdaro rhwng personoliaethau ac ymddygiad negyddol yn y tîm. Hefyd gall fod yn anodd iawn adnabod pan fo anghytuno’n troi’n anghydfod oherwydd bob pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol ac weithiau mae’r sefyllfaoedd hyn yn datblygu dros gyfnod hir sy’n ei gwneud hi’n anodd i wahanu’r gwahanol broblemau sydd wedi dod i’r amlwg er mwyn ceisio eu datrys.
Yn y sefyllfaoedd hyn mae’r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi staff i gydweithio i ddatrys anghydfodau a gwrthdaro. Mae’n cydnabod y bydd annog cysylltiadau gwaith da rhwng unigolion yn cael effaith gadarnhaol ar les a pherfformiad staff. I wneud hyn mae gan y brifysgol bolisi a phroses gyfryngdod sy’n wirfoddol, yn gyfrinachol ac yn anffurfiol lle mae unigolyn annibynnol – y cyfryngwr, yn gweithio gyda’r rhai sydd dan sylw i ddatrys anghydfod a gwrthdaro yn y gweithle a’u helpu i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain a dod i gytundeb a fydd yn gwella’u sefyllfa.
I ddechrau’r broses mae’n rhaid i bob unigolyn gytuno’n wirfoddol i gymryd rhan a bydd y Cydlynydd Cyfryngdod (Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol – Datblygu) yn trefnu cyfarfodydd ar wahân gyda’r unigolion sy’n ceisio cyfryngdod i egluro’r broses a phenderfynu ai dyma’r ffordd orau ymlaen. Mae’r broses gyfryngdod yn golygu bod y cyfryngwr yn gweld pob unigolyn sy’n gysylltiedig ar wahân i egluro’r materion sydd angen sylw ac yna dod â’r unigolion at ei gilydd i ganfod atebion posibl. Pan fo cytundeb ar y cyd rhwng yr unigolion, bydd y cyfryngwr / cyfryngwyr yn cofnodi’r manylion ar bapur, a bydd y partïon yn llofnodi’r cytundeb. Mae’r broses cyfryngdod a chytundeb yn gyfrinachol.