Rheoli Perfformiad Da
Rhan allweddol o’ch swydd yw cefnogi a datblygu staff da. Mae staff sy’n perfformio’n gyson, yn cyflawni a mynd tu hwnt i ddisgwyliadau eu swydd yn allweddol wrth sicrhau amcanion y brifysgol. Beth all ddigwydd yng nghanol y myrdd o dasgau y mae’n rhaid i reolwyr eu gwneud yw y gellir anghofio am un grŵp o staff gan eu bod yn bwrw ymlaen â’u gwaith.
Mae’n hanfodol rhoi adborth a chefnogaeth dda i staff da, a gellir cydnabod eu cyfraniad trwy:
- Mae cydnabod cyfraniad o ddydd i ddydd staff sy’n perfformio’n dda yn gyson yr un mor bwysig â chydnabod y llwyddiannau mawr.
- Meddyliwch yn ehangach am sut y gallwch gydnabod llwyddiant da – ond cofiwch rhoi cydnabyddiaeth sy’n gweddu i’r unigolyn – efallai na fyddant yn gwerthfawrogi bod yn ganolbwynt sylw – felly rhowch gydnabyddiaeth sy’n briodol i’r unigolyn.
- Efallai na fydd staff rhagorol angen llawer iawn o gefnogaeth – ond peidiwch â rhagdybio, mae’n bwysig mesur y pwysau maent yn rhoi arnynt eu hunain i gyflawni.
- Hefyd cofiwch y dylid trin yr holl staff yn gyfartal i sicrhau eich bod yn wrthrychol wrth gydnabod perfformiad da.