Rheoli Straen
Maes arall sy’n effeithio ar berfformiad staff yw straen ac fel rheolwr rydych chi’n gyfrifol am reoli straen yn y gwaith fel rhan o’ch cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli iechyd, diogelwch a lles eich staff yn y gwaith.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dioddef straen rywbryd yn ystod eu bywydau, ac mae’n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mewn llawer o achosion nid gwaith yw’r achos sylfaenol, eto mae’n arwain at berfformiad gwael / absenoldeb neu drafferthion wrth ymwneud ag eraill yn y gwaith. Mae’n hanfodol, felly, bod gennych ychydig o ddealltwriaeth o effeithiau ac achosion straen ar yr unigolyn a’r sefydliad, er mwyn cymryd camau i’w atal.
Beth yw straen yn gysylltiedig â gwaith?
Straen yw’r adwaith andwyol a gaiff pobl i bwysau gormodol neu fathau eraill o ofynion a roddir arnynt. Mae’r diffiniad hwn yn gwahaniaethu rhwng effeithiau manteisiol pwysau a her resymol, a straen yn gysylltiedig â gwaith a achosir gan ofynion neu bwysau y mae’r unigolyn yn teimlo na all ymdopi â hwy.
O ran effaith y straen ar staff gall newidiadau mewn morâl, perfformiad salach yn y gwaith, llawer o absenoldeb salwch, cwynion am aflonyddu ac/neu staff yn gadael, fod yn arwyddion o straen yn y gweithle.
Fel y nodwyd yn Adran 2 o’r Pecyn Cymorth y prif beth yw cael yr amgylchedd gwaith yn iawn yn y lle cyntaf ac mae eich swyddogaeth fel rheolwr yn hollbwysig i greu amgylchedd gwaith sy’n helpu i osgoi straen diangen ac yn bwysicaf oll, atal yr aelod rhag mynd yn sâl o ganlyniad i straen yn y gweithle.
Lles a Pherfformiad
Wrth reoli perfformiad, mae’n allweddol i ystyried iechyd a lles unigolion. I grynhoi, mae’r meysydd allweddol i chwi fod yn ymwybodol ohonynt yn cynnwys:
- Gall adolygu gwyliau blynyddol fod yn elfen allweddol i reoli iechyd a lles a rheolwyr a bod yn ymwybodol fod yr holl staff yn gwneud defnydd o’u darpariaeth gwyliau blynyddol yn unol â’r rheoliadau amser gwaith.
- Gall y tîm Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Brifysgol (sy’n cynnwys a darpariaeth iechyd galwedigaethol) gynnig cyngor lle mae pryderon unigol yn codi yn y gweithle sy’n ymwneud â ffactorau corfforol neu faterion iechyd.
- Sicrhau hefyd eich bod yn ymwybodol o salwch ac absenoldebau a bod y rhain yn cael eu cofnodi. Gall hyn fod o fudd i reoli iechyd a lles. Gall cynnydd mewn absenoldebau tymor byr nodi anawsterau cynnar gyda iechyd ac yn galluogi i gymorth rhagweithiol i gael ei gynnig yn gynnar. Dylech hefyd fod yn ymwybodol nad yw absenoldebau yn cael eu cuddio gan ddefnyddio gwyliau blynyddol.
- Mae amrywiaeth eang o Bolisïau Cefnogi Gweithwyr sy’n rhoi arweiniad ar gyfleoedd eraill y gall rheolwyr a staff yn defnyddio.
Senarios a chamau gweithredu posibl – Rheoli Straen
Senario | Ystyriaethau anffurfiol i reolwyr | Camau i’w cymryd ar unwaith | Ystyriaethau tymor byr | Tymor Hir |
---|---|---|---|---|
Arwyddion o fethu delio â’r gwaith oherwydd straen |
Gall nifer o ffactorau achosi straen, ac felly dylech ystyried y canlynol:
|
|
|
Newidiadau posibl i ddyletswyddau. Defnyddiwch y broses galluogrwydd fel y dewis olaf. |
Straen oherwydd digwyddiadau allanol |
|