Gwell sgôr i’r Ysgol Busnes o ran cynnyrch ei hymchwil
Mae Pennaeth Ysgol Busnes Bangor wedi croesawu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
“Rydym yn falch iawn ynglŷn â’r sgôr uwch a gafodd ein cynnyrch ymchwil o gymharu â’r ymarfer diwethaf, a’n bod, pan addesir y sgôr o ran cyfran y staff a oedd wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad i’r REF, yn y 25% uchaf o ysgolion busnes y DU,” meddai’r Athro John Thornton, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor.
“Pan gyfunwch hynny â’r gyfradd foddhad o 91% a gafwyd yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014, gall myfyrwyr sy’n dewis astudio yn Ysgol Busnes Bangor deimlo’n ffyddiog y byddant yn cael profiad penigamp, yn academaidd ac o ran bywyd myfyrwyr.
“Rydym yn arbennig o falch ynglŷn â’r sgôr a enillodd ein hymchwil o ran ei heffaith, a hynny’n cydnabod y dylanwad penodol a gaiff ym meysydd cystadleuaeth bancio, polisi ariannol a chydraniad ariannol er diogelwch, ac ymchwil yng nghyswllt busnesau bach.”
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014