Theatr FForwm a Datblygu Cymunedol
Mae myfyrwyr M.A. datblygu Cymunedol yn trefnu a chynnal diwrnod o weithgareddau Theatr Fforwm gyda'u partneriaid GISDA a grŵp Theatr Fforwm GISDA; Sophie McKeand, Bardd Pobl Ifanc Cymru; Peter Salami o Swyddfa Gwasanaethau Prawf Bangor ac Yvonne Stillie, myfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau gyda Theatr ym Mhrifysgol Bangor - bydd yn chwarae rhan y Jocer ar y diwrnod. Nod y diwrnod yw archwilio agweddau bobl ifanc ac agweddau tuag atynt ac i gael pawb i gydweithio am newid.
Cynhelir y diwrnod yng Nghlwb Pêl Droed Dinas Bangor trwy wahoddiad yn unig. Bydd y myfyrwyr rhan amser, sy'n gweithio ar draws y rhanbarth mewn gwahanol rolau cymunedol, yn dadansoddi'r diwrnod ac yn mesur effaith y gweithgareddau. Bydd yr adroddiad yn cael ei rhannu gyda chyfranogwyr y diwrnod yn ogystal â chyrff eraill perthnasol er mwyn annog y newid sydd ei angen. Cred Peter Salami bod canfyddiadau tuag at bobl ifanc yn diffinio’r math ac ansawdd o wasanaeth maent yn derbyn gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. Felly maen annatod bod yr oedolion yma yn ymwybodol o'u rhagdybiaethau ac yn lleihau canfyddiadau negyddol i weithio'n agored gyda phobl ifanc i sicrhau effaith bositif.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2016