Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo'r rheini sy'n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cofiwch
- I fod yn gymwys i gael unrhyw un o fwrsariaethau Bangor, rhaid i chi lenwi ffurflen gais am gyllid myfyriwr -
dyma'r ffordd o asesu hawl myfyrwyr i gael benthyciadau, grantiau cynhaliaeth ac ati. Bydd yr un drefn (a'r un
ffurflen) yn cynnwys asesu eich hawl i gael bwrsariaeth. - Caiff taliadau bwrsariaethau eu gweinyddu a'u dosbarthu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran y
Brifysgol - felly rhaid i chi lenwi ffurflen gais am gyllid myfyriwr cyn gallu derbyn taliad bwrsariaeth gan
Fangor.