Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn buddsoddi yn arbenigedd Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newyddion fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dyfarnu naw swydd academaidd a phum ysgoloriaeth PhD iddi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r dyfarniadau yn gydnabyddiaeth o’r rhan arweiniol y disgwylir i Brifysgol Bangor ei chwarae wrth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddod i fodolaeth ym mis Medi 2011. Trwy’r buddsoddiad newydd hwn, sydd gyfwerth â hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf, bydd modd i’r Brifysgol ddatblygu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar raddfa ehangach nag a wnaeth erioed o’r blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2011