Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Tachwedd 2024
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Mehefin 2022
- Mawrth 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Ebrill 2021
- Chwefror 2021
- Tachwedd 2020
- Awst 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Mehefin 2019
- Ebrill 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Mehefin 2018
- Ebrill 2018
- Ionawr 2018
- Tachwedd 2017
- Gorffennaf 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Gorffennaf 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Tachwedd 2015
- Medi 2015
- Gorffennaf 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Tachwedd 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Awst 2013
- Mai 2013
- Hydref 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Mehefin 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Hydref 2019
Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r alwad gyntaf am bapurau ar gyfer Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020. Dyma’r symposiwm academaidd cyntaf yn y maes ar gyfer ymchwilwyr Cymru. Mae croeso cynnes i ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr gyfrannu ato. http://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae 2019
Gyda’r Diwrnod Shwmae Su’mae bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15). Nod Diwrnod Shwmae Su’mae yw hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a’n myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Ysgoloriaeth MRes KESS - Ail Hysbyseb
Oherwydd amgylchiadau arbennig cynigir unwaith eto ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “ Safoni Termau Cyfraith Teulu'n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg ”. Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan W asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith , Canolfan Bedwyr . Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019