Sefydlwyd y Bwrdd Ymgynghorol Alumni yn 2006 fel grŵp ymgynghorol anllywodraethol o alumni'r Brifysgol sydd wedi cadw mewn cysylltiad â'u alma mater ac sy'n rhannu diddordeb yn nhwf sylfaen gadarn o gyn-fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ym materion y brifysgol. Diben y Bwrdd yw cynrychioli'r gymuned alumni ehangach a rhoi barn ac awgrymiadau i'r Brifysgol ar y materion hynny sydd o ddiddordeb i alumni.
Mae aelodau'r bwrdd yn hyrwyddo ac yn cyfathrebu cenhadaeth a gweledigaeth Bangor, gan weithio i symud rhaglen gysylltiadau alumni'r Brifysgol yn ei blaen. Maent yn cefnogi’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynorthwyo i greu sylfaen o arweinwyr gwirfoddol o blith alumni, cynllunio a rheoli digwyddiadau alumni a chynorthwyo i nodi aelodau newydd posibl neu alumni a allai fod yn barod i ymwneud â'r Brifysgol.
Aelodau Alumni
![George Buckley](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/george-buckley.jpeg?itok=YXWC5eIW)
Cadeirydd:
Dr George Buckley (1993, Economeg)
George Buckley yw Prif Economydd y DU i Nomura. Ymunodd â Deutsche Bank fel Prif Economydd y DU ym 1998 ar ôl cwblhau doethuriaeth ym maes marchnadoedd tai a morgeisi ym Mhrifysgol Bryste. Tra roedd ym Mryste, bu George yn darlithio a dysgu macro-economeg i israddedigion.
Mae ganddo MSc mewn cyllid ac economeg o’r un brifysgol a BA economeg o Brifysgol Bangor. Ef yw awdur y llyfr “What You Need to Know About Economics” (2011).
Mae George hefyd yn un o aelodau sefydlu Grŵp 2020 Bangor, grŵp busnes i gyn-fyfyrwyr Bangor sy’n aros mewn cysylltiad â’r brifysgol ac yn cynorthwyo mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys codi proffil y brifysgol mewn marchnadoedd allweddol. Penodwyd George yn gadeirydd y Bwrdd Ymghynorol Alumni ym mis Mawrth 2015.
Yr Athro Andrew Brown (1978, Astudiaethau Addysg)
![Andrew Brown](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/andrew-brown.jpeg?itok=P0f3Sre7)
Mae Andrew yn Athro Addysg a Chymdeithas yn Sefydliad Addysg UCL, lle mae'n Gyfarwyddwr Dros Dro ar hyn o bryd. Mae hefyd wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr (Datblygiad Academaidd), Deon y Gyfadran Polisi a Chymdeithas a Deon yr Ysgol Ddoethurol. Fel aelod o dîmuwch UCL a'r Sefydliad Addysg, mae'n chwarae rhan strategol ar draws y sefydliad ac yn gyfrifol am feithrin diwylliant deallusol bywiog, lledaenu enw da'r Sefydliad Addysg fel canolfan bwysig ar gyfer ysgolheictod mewn ymchwil addysg a chymdeithasol a chynrychioli'r Sefydliad Addysg gydag asiantaethau allanol. Mae ei waith academaidd fel cymdeithasegydd yn archwilio'r berthynas rhwng disgwrs academaidd, proffesiynol bob dydd ac ymarfer a chynhyrchu/atgynhyrchu cysylltiadau cymdeithasol, a datblygiad galluoedd ymchwil.
Ar ôl rhoi'r gorau i gwrs ffiseg ddamcaniaethol yn Warwick yn 1974 fe'i hysbrydolwyd i ymwneud mwy gydag addysg ac fe ymgeisiodd am lefydd ar raglenni addysg israddedig a bu'n ddigon ffodus i gael cynnig lle ym Mangor. Gan fod Andrew bellach yn y swydd academaidd uchaf yn y byd ym myd addysg, mae'n falch o ddweud fod ei radd o Brifysgol Bangor wedi newid ei fywyd!
Tim Clay (1982, Bioleg Môr / Eigioneg)
![Tim Clay](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/tim-clay.jpeg?itok=Z3GB_4fn)
Ymunodd Tim â'r diwydiant gwasanaethau ariannol ar ôl graddio o Brifysgol Bangor yn 1982. Roedd yn gyd-sylfaenydd Clay Rogers & Partners Ltd, un o brif gwmnïau cynllunio ariannol annibynnol Birmingham, cyn i'r busnes hwn ddod i feddiant Succession Group ym Medi 2016. Mae Tim yn gweithio'n agos gyda chyfreithwyr corfforaethol a phriodasol a chyfreithwyr cleientiaid preifat ac yn rhannu ei amser yn bennaf rhwng Canolbarth Lloegr a chanol Llundain. Mae hefyd yn helpu i sefydlu rhaglen hyfforddi Succession i raddedigion.
Cyfarfu Tim â'i wraig, Laura, pan oedd y ddau yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac maent yn dychwelyd bob blwyddyn, gyda'u plant sydd bellach wedi tyfu i fyny, ar gyfer penwythnos yr Hen Fechgyn.
Mae'n hoff o chwaraeon a chodi arian i elusennau ac mae'n aelod o bwyllgor rhanbarthol The Lord's Taverners. Mae hefyd yn Warden Swyddfa Brofion Birmingham.
Jane Griffin (1993, Ffrangeg)
![Jane Griffin](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/jane-griffin.jpeg?itok=6RxkJ44K)
Jane yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Positive Story - ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus strategol sy'n arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnesau technoleg newydd a chwmnïau diwydiannol byd-eang.
Mae Jane yn gyn-ohebydd newyddion teledu a radio ar gyfer y BBC ac ITV ac mae ganddi fwy na phum mlynedd ar hugain o brofiad yn rhychwantu newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae hi wedi gweithio gydag asiantaethau ac yn fewnol ac arferai fod yn Bennaeth Cysylltiadau Cyfryngau Byd-eang a Seilwaith yn y cwmni peirianneg, rheoli prosiect ac adeiladu blaenllaw, Bechtel, am saith mlynedd. Bu hefyd yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol am bedair blynedd ar gyfer Angel Trains Group, sy'n rhan o Grŵp Banc Brenhinol yr Alban. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn uwch-swyddi cysylltiadau â’r cyfryngau gyda BAE Systems, Network Rail, Eurotunnel ac ATOC.
Kailesh Karavadra (1989, Peirianneg Electronig)
![Kailesh Karavadra](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2021-03/Kailesh%20Karavadra3.jpg?itok=qyzJnmxC)
Kailesh Karavadra yw Rheolwr Marchnadoedd Twf Rhanbarth y Gorllewin Ernst and Young, yn Silicon Valley, ac mae'n gyfrifol am bortffolio sy'n cynnwys rhai o brif gwmnïau technoleg y byd.
Fe'i ganed yn Kampala, Uganda i rieni o India, a daeth i Brydain fel ffoadur. Dewisodd ddod i Fangor yn lle Prifysgol Rhydychen i astudio BSc mewn Peirianneg Electronig, a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1989, ac arhosodd ym Mangor i wneud gradd Meistr mewn Peirianneg, gan ychwanegu modiwlau cyfrifyddu ac ariannol ychwanegol at ei raglen Meistr.
Ymunodd Kailesh ag Ernst & Young fel cyfrifydd yn eu swyddfeydd yn Luton a Llundain ar ddechrau'r 1990au ac ym 1995, trosglwyddodd i swyddfa San Jose Ernst & Young ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau
Ochr yn ochr â gyrfa brysur a bywyd teuluol, mae Kailesh yn gwneud gwaith gwirfoddol helaeth gyda nifer o elusennau gan gynnwys y Food Rescue Mission yn San Jose a rhaglen Small Business Ignite Mentoring y Maer i hybu twf busnesau bach. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am Wasanaethau i Fusnes yn 2017.
Mark Rigby (1979, Amaeth)
![Mark Rigby](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/rigby-mark.jpg?itok=tXqrwCPy)
Ar ôl graddio o Fangor yn 1979, cwblhaodd Mark radd Meistr mewn Gwyddor Bwyd ym Mhrifysgol Nottingham.
Gan gyfuno gwaith â'i gariad at rygbi, treuliodd Mark yr 20 mlynedd nesaf yn y sector masnach amaeth a'r sector amaeth-gemegolion a chael swyddi cyfrifol. Ymunodd â grŵp teuluol T H White yn 1999 er mwyn sefydlu cyfadran llwytho lorïau genedlaethol (craeniau), a gyda Palfinger, aeth â nhw i'r safle cyntaf yn 2006 lle maent wedi aros byth ers hynny. Cafodd Mark sedd ar fwrdd grŵp T H White (Holdings) yn 2006. Cyn hynny roedd wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Amaethyddol Prydain a Sumitomo Agriculture. Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant sydd wedi gadael y nyth, ac mae'n parhau i chwarae rygbi i dîm hen chwaraewyr Bangor bob blwyddyn ac mae'n mwynhau bwyd a gwin da.
Dr Britta Taylor (2013, Bioleg Canser)
![Dr Britta Taylor](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/BrittaHeadshot.jpg?itok=ZSjOWrGD)
Ar hyn o bryd mae Britta yn gweithio fel Rheolwr Treialon Clinigol ar Dreialon Clinigol Oncoleg, sy'n ei hysgogi a'i gwobrwyo bob dydd. Adeiladodd ar ei gradd mewn Bioleg Canser o Brifysgol Bangor gydag M.Sc. mewn Bioleg Bôn-gelloedd Moleciwlaidd a Datblygiadol o Brifysgol Bochum, yr Almaen, PhD mewn Oncoleg Pediatreg o Brifysgol Heidelberg, yr Almaen a Diploma Ôl-radd mewn Meddygaeth Arbrofol (Canser) o Brifysgol Manceinion. Mae Britta yn ddiolchgar iawn iddi gael y cyfle ym Mangor i arbenigo mewn Bioleg Canser mor gynnar yn ei gyrfa ac i weithio ym maes Oncoleg byth ers hynny.
Mae Britta, sy’n dod yn wreiddiol o’r Almaen ac a symudodd i’r Deyrnas Unedig ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch, yn falch o fod wedi aros yn y wlad am fwy o amser i astudio tuag at B.Sc. ym Mangor gan mai dyna lle y cyfarfu â'i gŵr bellach. Maent yn dychwelyd yn rheolaidd i Fangor i ail-fyw hen atgofion ac yn methu aros i fynd â'u merch yno i ddangos iddi lle y cyfarfu Mami a Dadi.
Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Bangor, bu’n alwr ar gyfer ymgyrchoedd Cronfa Bangor y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, roedd yn rhan o’r gymdeithas RAG a’r Clwb Athletau y mae’n dal i gyfarfod â nhw’n rheolaidd ac yn dal i redeg/cystadlu mewn rasys â nhw. Ers graddio, mae Britta wedi parhau i fod yn gefnogwr mawr i Brifysgol Bangor ac wedi cyfrannu at nifer o weithgareddau myfyrwyr a recriwtio cyn-fyfyrwyr.
Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol / Trosedddeg a Chyfiawnder Troseddol)
![Jonathan Wright](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2020-12/JWright.jpg?itok=Eh4A7alP)
Mae Jonathan yn Llywydd Rhyngwladol Hearst Magazines. Mae o'n cyn-Gyfarwyddwr Rheoli Byd-eang Dow Jones, Cyfarwyddwr News Corp’s VCCircle a Chyfarwyddwr Newspicks, lle oedd yn gyfrifol am lunio a gweithredu strategaethau twf ar gyfer The Wall Street Journal a Dow Jones tu allan i'r Unol Daleithiau.
Wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan feddyliau am yrfa bosibl yn y fyddin neu wasanaeth amddiffyn brenhinol a diplomyddol yr heddlu, dewisodd Jonathan astudio Trosedddeg ym Mhrifysgol Bangor ond, ar ôl symud i Lundain, cafodd swydd ym maes gwerthiant hysbysebion a daeth i ymddiddori'n fawr ym musnes y cyfryngau. Ymunodd â Dow Jones yn 2010 fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Hysbysebu i Financial News Dow Jones a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi a Gwerthiant Grŵp gydag Euromoney Institutional Investor yn Efrog Newydd.
Jonathan yw Cyswllt ac Ymgynghorydd Rhyngwladol y Bwrdd Ymgynghorol Alumni. Mae ei gysylltiadau â Bangor yn mynd yn ôl i 1910 pan raddiodd ei hen-nain o'r Brifysgol gyda BA mewn Saesneg.
Yn ei amser hamdden, mae'n hoffi gwylio ei ddau blentyn yn chwarae rygbi ac mae'n cadw'n heini trwy ymarfer ar gyfer marathonau a phrofion dygnwch, megis beicio o Lundain i Monte Carlo. Mae'n mwynhau theatr leol ac, yn ystod ei amser yn Efrog Newydd, cynhyrchodd dair drama oddi ar Broadway.