Mae Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn falch o gyflawniadau ei chyn-fyfyrwyr rhyngwladol. Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cynnal aduniadau a digwyddiadau ledled y byd ac maent bob amser yn falch o weld cynifer o gyn-fyfyrwyr yn dod ac yn sgwrsio am hyn a llall a chwrdd ag aelodau o staff Prifysgol Bangor. Cynhelir aduniadau blynyddol yn Nheyrnas Bahrain a Tsieina a chynhaliwyd digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, Gwlad Groeg, Singapore a Hong Kong ymhlith eraill!
Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau â sefydliadau addysgol ledled y byd megis Prifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain yn Nheyrnas Bahrain ac mae grwpiau o gyn-fyfyrwyr wedi dod ynghyd yn y lleoliadau hynny i gefnogi'r partneriaethau.
A allech chi gefnogi Prifysgol Bangor yn eich gwlad chi?
Mae Prifysgol Bangor yn ddiolchgar am gefnogaeth gwirfoddolwyr o blith yr alumni mewn mannau allweddol ledled y byd sy'n ymfalchïo yn eu cysylltiad â'r Brifysgol ac yn dymuno helpu codi ei phroffil yn rhyngwladol.
Fel gwirfoddolwr gallwch gefnogi Prifysgol Bangor trwy rannu eich profiadau gyda darpar fyfyrwyr, ehangu rhwydwaith yr alumni yn eich rhanbarth a rhannu eich gwybodaeth am fywyd a diwylliant eich gwlad.
Gallwch chi ein cynorthwyo gyda digwyddiadau fel sesiynau briffio ar gyfer myfyrwyr newydd, digwyddiadau gyrfaoedd a derbyniadau croeso i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i'ch rhanbarth. Cewch gyfle i gysylltu â'ch cyd alumni yn eich dinas a'ch gwlad ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol a busnes yn ogystal â datblygu cysylltiadau â staff y Brifysgol sy'n ymweld â'ch rhanbarth.
Os ydych chi'n alumnus rhyngwladol ac mae gennych chi ddiddordeb helpu codi proffil Bangor yn eich rhanbarth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Anfonwch e-bost at Bethan Perkins yn: alumni@bangor.ac.uk
Gweler tudalennau Canolfan Addysg Ryngwladol Prifysgol Bangor am ragor o wybodaeth am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn eich gwlad chi.
Gwobr Alumni y Flwyddyn
Bob blwyddyn mae Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ar gyfer gwobrau Alumni y Flwyddyn. Mae gwobr Alumni y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein graddedigion, yn broffesiynol ac yn bersonol. Darllenwch mwy am y rhai sydd wedi derbyn Alumni Rhyngwladol y Flwyddyn isod.
- Zahra Al Shamma (Bancio a Chyllid, 2013) - Bangor / BIBF Alumnus of the Year 2022
- Fatema Bastaki (Banking and Finance, 2012) - Bangor / BIBF Alumnus of the Year 2019
- Yingying Liu (Linguistics, 2014) - China Alumnus of the Year 2019
- Michelle Han (MBA, 2004) - China Alumnus of the Year 2018
- Mohamed Al-Mahroos (Banking & Finance MSc, 2012) - Bangor / BIBF Alumnus of the Year 2018
- Mohamed Ashoor (Business Studies and Finance, 2011) - Bangor / BIBF Alumnus of the Year 2017
- Prof. Yanjing Wu (Psychology PhD, 2008) - China Alumnus of the Year 2017
- Amina Rashid Al-Alaiwi (Accounting and Finance, 2010) - Bangor / BIBF Alumnus of the Year 2016