Mae gan Brifysgol Bangor bron i 120,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ym mhedwar ban y byd. P'un a ydych yn un o gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Y Coleg Normal, Coleg y Santes Fair neu Brifysgol Cymru, Bangor, mae'r Tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma i'ch helpu chi gadw mewn cysylltiad â'ch gilydd a'ch alma mater.
Rydym yn anfon e-gylchlythyrau rheolaidd i roi'r wybodaeth a'r newyddion diweddaraf i chi ynghylch y Brifysgol a threfnu aduniadau a digwyddiadau ar gyfer cyn-fyfyrwyr ledled y byd. Gallwn eich helpu chi ailgysylltu â ffrindiau coll a chynllunio'ch aduniadau eich hun hefyd. Mae'r tîm hefyd yn cefnogi cyn-fyfyrwyr sydd am roi rhywbeth yn ôl i'w Prifysgol drwy weithgareddau fel rhoi cyngor ynglŷn â gyrfaoedd i'r myfyrwyr presennol neu siarad â darpar fyfyrwyr mewn Diwrnodau Agored.
Dydyn ni ddim eisiau colli cysylltiad â chi ar ôl i chi raddio! Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn symud tŷ, yn newid eich gwaith neu'n newid eich cyfeiriad e-bost trwy lenwi ein ffurflen ddiweddaru. Gallwch hefyd ymuno â ni ar ein grwpiau LinkedIn a Facebook i gadw cysylltiad â Phrifysgol Bangor a'ch cyd gyn-fyfyrwyr.
Cysylltwch â ni
Rydym yn falch o glywed gan ein cyn-fyfyrwyr, boed hynny er mwyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich gyrfa ers i chi raddio neu i dderbyn eich lluniau a'ch atgofion o'ch amser ym Mangor.
Os hoffech chi gysylltu â'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, mae'r manylion cysylltu isod:
Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn: + 44 (0)1248 382020 / 388332
E-bost: alumni@bangor.ac.uk
Y Bwrdd Ymgynghorol Alumni
Sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol yr Alumni yn 2006 i gynghori'r Brifysgol ynghylch cysylltiadau a gweithgareddau'r cyn-fyfyrwyr. Mae'r Bwrdd, o dan gadeiryddiaeth Dr George Buckley (Economics, 1993), yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.
Darllen mwy am aelodau'r Bwrdd.