Ymunwch â ni ar-lein
Fel y gŵyr miloedd o'n cyn-fyfyrwyr, gallwch gadw mewn cysylltiad drwy ymuno â ni ar LinkedIn a Facebook.
Cliciwch ar yr eiconau i gymryd rhan yn ein cymunedau ar-lein a chysylltu ag alumni eraill a'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Cliciwch ar yr eiconau i gymryd rhan yn ein cymunedau ar-lein a chysylltu ag alumni eraill a'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Ffeindiwch ffrind
Os ydych chi wedi colli cysylltiad â hen gyfeillion a rannodd ddosbarth gyda chi, mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn hapus i geisio eich rhoi chi mewn cysylltiad eto. Er na allwn rannu manylion cyswllt heb ganiatâd, os oes gennym wybodaeth am eich cyd-fyfyrwyr, gallwn gysylltu â nhw ar eich rhan. Gallwn hefyd helpu trwy ddarparu rhestrau dosbarth os hoffech chi gynllunio'ch aduniad eich hun.
Os hoffech i ni chwilio am hen gyfeillion coll, cysylltwch â ni gydag enw llawn eich cyfaill, y pwnc y bu'n ei astudio a'r flwyddyn raddio yn alumni@bangor.ac.uk