Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2024: Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor i'r cyhoedd
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, sy’n cynnig digwyddiadau rhad ac am ddim ledled Cymru, sy’n addas i'r holl deulu yn ystod hanner tymor yr Hydref, tra hefyd yn dathlu hanes cyfoethog a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru.
Fel rhan o'r ŵyl eleni, bydd Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Bangor ar agor ar ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd rhwng 11:00am i 3:00pm. Dyma gyfle i weld yr Amgueddfa, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yna. Bydd myfyrwyr ar gael i ofyn cwestiynau, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.
Mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at achredu amgueddfaol, sef y safon cenedlaethol ar gyfer amgueddfeydd, i wella mynediad i gasgliadau’r Brifysgol. Mae hyn yn rhan o’r gwaith a wneir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor â Storiel.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor, “Mae gan Prifysgol Bangor gasgliad amgueddfa fendigedig, gydag eitemau diddorol o bob rhan o’r blaned. Mae’n bleser gallu agor y casgliad i’r gymuned ehangach, a dangos ein hymrwymiad i addysg a’r byd natur.”
Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiriadau ar gael ar y wefan.
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cael ei hariannu’n hael gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei threfnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. I ddysgu mwy am ddigwyddiadau ac am restr lawn o weithgareddau'r ŵyl, ewch i wefan yr ŵyl yn: https://museumsfestival.wales