Ynglŷn â’r Cwrs Yma
cod modiwl: (NHS-4375)
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, lefel 7 ol-raddiedig a gyflwynir ar ein campws ym Mangor, gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Caiff y cwrs byr hwn ei anelu at Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol o unrhyw ddisgyblaeth, sydd â chofrestriad proffesiynol perthnasol yn y Deyrnas Unedig, sydd neu sy’n dymuno dod yn Ymarferwyr Clinigol Uwch.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddatblygu ac archwilio egwyddorion Ymarfer Clinigol Uwch. Bydd yn eich galluogi i gymhwyso ac ymgorffori'r wybodaeth honno yn y gweithle.
Mae natur amlbroffesiynol y cwrs byr yn gyfle gwych i weithwyr proffesiynol rannu’r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddynt ar rôl yr Uwch Ymarferydd Clinigol. Yn seiliedig ar hynny mae pwyslais mawr ar ddysgu rhyngbroffesiynol, ac mi gewch eich annog i gydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr.
Bydd y modiwl yn braenaru’r tir i chi ac yn eich galluogi i gymhwyso'r wybodaeth, yr ymarfer a'r sgiliau angenrheidiol sy’n sail i bedair colofn Ymarfer Clinigol Uwch:
- Ymarfer Clinigol
- Addysg
- Arweinyddiaeth
- Ymchwil
Cyn i’r modiwl ddechrau bydd angen i chi nodi mentor Ymarfer Clinigol Uwch yn eich maes gwaith, i'ch galluogi a'ch cefnogi i ddatblygu Portffolio Ymarfer Uwch.
Asesiad
Bydd asesiadau’r cwrs yn cynnwys:
- Cyfrannu o leiaf 800 o eiriau mewn pedwar fforwm trafod, a fydd yn ymwneud yn benodol â phedair colofn Ymarfer Clinigol Uwch. Bydd y cyfraniadau’n parhau dros 6 mis y cwrs. Bydd y cyflwyniad terfynol fis Ebrill 2025
- Ysgrifennu 3,000 o eiriau aseiniad adfyfyriol sy’n seiliedig ar eich profiadau dysgu fel Uwch Ymarferwyr Clinigol dan hyfforddiant yn ystod y modiwl. Cyflwyno fis Mai 2025
- Datblygu a chynnal a chadw a portffolau Ymarfer Clinigol Uwch, ar y cyd â'ch mentor clinigol. Cyflwyno fis Ebrill 2025.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae’r cwrs byr hwn wedi’i ymestyn dros 6 mis ac yn dechrau Hydref 11, 2024.
Ar y Campws:
Bydd tridiau o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor:
11 Hydref 2024 – Cyflwyniad i'r modiwl
25 Hydref 2024 – Paratoi ar gyfer fforymau trafod ar-lein
15 Mawrth 2025 - Gweithdy portffolio
Dysgu Ar-lein:
Bydd dysgu ar-lein strwythuredig ar ffurf paratoi a chymryd rhan mewn fforymau trafod yn cyfateb i 18 diwrnod (1/2 diwrnod) rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025.
Dysgu yn y Gweithle:
Dysgu yn y gweithle gyda'ch mentor clinigol. O leiaf tri chyfarfod ffurfiol i ddatblygu eich Portffolio Ymarfer Uwch.
Tiwtor
Julie Lunt
Julie yw arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Perthynol ym Mhrifysgol Bangor.
Cymhwysodd Julie fel Nyrs Gofrestredig ym 1992 ac fel presripsiynydd annibynnol yn 2007, a chwblhaodd MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2017.
Mae gan Julie 30 mlynedd o brofiad mewn gofal sylfaenol a diddordeb arbenigol mewn cardioleg.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nodau dysgu’r cwrs hwn fydd i alluogi’r dysgwr fel a ganlyn:
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion rhesymu clinigol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y Fframweithiau Ymarfer Uwch
- Dangos y gallu i ddadansoddi'n feirniadol a chymhwyso amrywiaeth eang a dyfnder o ran theori sy'n sail i rôl ymarfer uwch a dangos dealltwriaeth o effaith y rôl ar ddatblygu a darparu gwasanaethau arloesol trwy ddatblygu a moderneiddio’r arferion gwaith
- Archwilio amrywiaeth dda o sbardunwyr deddfwriaeth a pholisi a chydnabod eu heffaith ar rolau ymarfer uwch yn llawn
- Archwilio a dadansoddi’n feirniadol yr egwyddorion llywodraethu sy’n arweiniad i weithio o fewn ffiniau derbyniol yn ogystal ag atebolrwydd proffesiynol, gallu a chymhwysedd rôl uwch ymarferydd
- Archwilio a gwerthuso’n feirniadol ddatblygiad gweithio rhyngbroffesiynol ar gyfer uwch ymarferwyr a nodi a dirnad y rôl a’r cyfrifoldebau amrywiol y gall uwch ymarferwyr eu cyflawni a oedd gynt yn faes i weithwyr proffesiynol eraill
- Cynnal dadansoddiad manwl o egwyddorion darparu gofal o ansawdd uchel a'i gymhwyso i ymarfer uwch
- Cynnal archwiliad dadansoddol o’r angen i ymateb yn effeithiol ac yn hyblyg i fodelau gofal newydd er mwyn gwella datblygiad a darpariaeth y gwasanaethau mewn iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector
Unedau Dysgu
Caiff y modiwl ei drefnu’n unedau dysgu a allai gynnwys y canlynol:
- 4 colofn ymarfer uwch: Ymarfer, Addysg, Ymchwil a Rheoli Arweinyddiaeth.
- Theori sy'n sail i ymarfer clinigol uwch
- Rhesymeg glinigol, atebolrwydd ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rôl ymarfer clinigol uwch.
- Datblygu a chynnal portffolio ymarfer clinigol uwch
- Sbardunwyr deddfwriaeth a pholisi ar gyfer gwella a moderneiddio’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector
- Moderneiddio'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector
- Gweithio rhyngbroffesiynol mewn ymarfer clinigol uwch
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
-
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid israddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Gofynion Mynediad
Bydd ymgeiswyr angen gradd israddedig o 2:2 neu uwch, a rhaid iddynt fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Unrhyw un sy’n gofrestredig gyda HCPC, GPhC neu’r NMC gan gynnwys bydwragedd neu Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Cysylltwch â arweinydd y cwrs i drafod ymhellach.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Datblygu Ymarfer Uwch: y cod yw (NHS-4375 ). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol