Language is à Virus: Haint Barddoniaeth Sain Chile-Cymru
Os mai feirws yw iaith, fel yr awgrymodd William Burroughs yn enwog, barddoniaeth sain yw ei ffurf fwyaf heintus. Mae’r perfformiad amlieitho hwn yn uno beirdd ac artistiaid y mae eu gwaith yn archwilio iaith, sain a gwaith byrfyfyr cydweithredol i ddarganfod posibiliadau newydd am ddeialog rhwng synhwyrau dynol, technoleg a’r bydysawd materol, o’r microsgopig i’r cosmig.
Mewn noson amrywiol o waith unigol a chydweithredol, mae Andrés Anwandter, Martín Bakero, Felipe Cussen, Nia Davies, Adrian Fisher, Luna Montenegro, Zoë Skoulding a Rhys Trimble yn rhannu eu brwdfrydedd heintus dros iaith fel ffynhonnell sain yn ei holl dreigladau ac amrywiadau.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Wobr Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, Arbrawf Gosod, dan arweiniad yr Athro Zoë Skoulding a Doctor Sarah Pogoda o'r Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau.