Lansiwyd y Prosiect Te Parti yn 1952 a dyma ddechrau’r daith wirfoddoli y mae myfyrwyr Bangor wedi bod yn ei dilyn ers hynny. Mae’r Te Parti yn de prynhawn ac adloniant ar gyfer trigolion oedrannus adeg y Nadolig ac o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Dros y blynyddoedd, mae’r partïon wedi rhoi cyfle i’r gymuned oedrannus fynd allan a chymdeithasu ac wedi helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.
I ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn, cynhaliodd y myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn Undeb Myfyrwyr Bangor, De Parti Nadolig arbennig i ddathlu 70 mlynedd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y gwirfoddolwyr a weithiodd yn galed i ddarparu’r profiad hudol hwn a meithrin perthynas hirsefydlog gyda’r gymuned leol.
Gwahoddwyd trigolion hŷn Bangor a Bethesda i fynychu’r prynhawn. Cludwyd y trigolion i Neuadd PJ ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau Bangor ar Ffordd y Coleg.
Wedi cyrraedd cawsant eu croesawu gan gael Is-ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Edmund Burke a ddywedodd,
“Mae’r byd wedi gweld llawer o newidiadau ers 1952, ac eto mae rhai pethau’n aros yr un fath: mae cysylltiad a chymuned yn dal yn bwysig, ac mae ein myfyrwyr yn parhau i gyfrannu’n egniol i gynlluniau gwirfoddoli a digwyddiadau fel hyn, sydd o fudd i’r ardal leol a’i gymuned, a dwg ni ynghyd.
Mae’r ystod eang o brosiectau gwirfoddoli y mae ein corff myfyrwyr yn ymwneud â nhw wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n myfyrwyr wrth iddynt nodi saith deg mlynedd o wirfoddoli yn ein cymuned.”
70 mlynedd o fyfyrwyr yn gwirfoddoli
Meddai Mair Rowlands, Cyfarwyddwr, Undeb Bangor.
“Roedd y Te parti Nadolig yn gyfle gwych i ddathlu 70 mlynedd o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn hyrwyddo’r berthynas agos rhwng y brifysgol a’r gymuned leol trwy ein prosiectau gwirfoddoli myfyrwyr. Mae’r te parti a llawer o’n prosiectau eraill wedi rhoi cyfle i’r henoed ym Mangor fynd allan a chymdeithasu a helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae’r gweithgareddau hyn sy’n pontio’r cenedlaethau yn cysylltu gwahanol genedlaethau, yn rhannu sgiliau a phrofiadau, ac wedi cyfrannu at ddatblygiad cymuned fwy cydlynol ym Mangor.”
Dywedodd Rob Samuel, Rheolwr Datblygu Aelodaeth, Undeb Bangor,
“Roeddwn i mor falch o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli a’n tîm staff sy’n eu cefnogi i gynnal digwyddiad mor wych. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl hŷn o’r gymuned leol yn mwynhau eu hunain ac yn rhyngweithio â’n myfyrwyr. Mae ein prosiectau gwirfoddoli yn cael eu harwain gan fyfyrwyr yn Undeb Bangor, gyda myfyrwyr yn rhoi o’u hamser er budd y gymuned leol, y bobl a’r amgylchedd. Maen nhw wir yn glod i Undeb Bangor a'r Brifysgol.