Stand Prifysgol Bangor efo pobol yn sefyll y tu allan

Mae tymor digwyddiadau'r haf yn dechrau gydag Eisteddfod yr Urdd


Mae'r tymor cyffrous o ddigwyddiadau i Brifysgol Bangor yn dechrau gydag Eisteddfod yr Urdd o ddydd Llun 29 Mai yn Llanymddyfri.

Mae'r tymor cyffrous o ddigwyddiadau i Brifysgol Bangor yn dechrau gydag Eisteddfod yr Urdd o ddydd Llun 29 Mai yn Llanymddyfri.
Yn dilyn yr Ŵyl, bydd  staff o’r Brifysgol  yn mynychu:

  • Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, 24-27 Gorffennaf 
  • Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 5-12 Awst  
Jo Jo Wierzbicki
Jo Wierzbicki, Swyddog Marchnata Brand

Dywedodd Jo Wierzbicki, Uwch Swyddog Marchnata Brand,

“Dan ni’n edrych ymlaen at y cyfle yn y ddwy eisteddfod ac yn y sioe i arddangos y brifysgol a'i dylanwad fel rhan o gymuned Gogledd Cymru. Os dach chi’n cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau neu gystadlaethau, peidiwch ag anghofio tagio Prifysgol Bangor ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni allu rhannu!

“Hefyd, diolch yn fawr iawn i’r holl cydweithwyr a myfyrwyr sy’n gweithio yn y digwyddiadau dros yr haf, hebddyn nhw fyddai hyn ddim yn bosib! Dan ni’n edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!”

Eleni yn Eisteddfod yr Urdd, bydd gan y Brifysgol drelar arddangos mawr y gallwch ddod ato am sgwrs a phanad, neu disgled, wrth gwrs.

Os yn ymweld â’r Eisteddfod gyda’ch teulu, fe ddewch o hyd i drelar y Brifysgol yn agos at Lwyfan y Cyfrwy, ar y dde wrth gerdded tuag at y Pafiliwn Gwyrdd.  

Mae nifer o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y trelar gan gynnys: 

  • Codio’r Campws Clyfar – fel rhan o ymgyrch cynaliadwyedd #25erbyn25, rydym yn treialu Campws Clyfar i gasglu data a fydd yn ein helpu i reoli a gwneud y defnydd gorau o’n hadeiladau. Dewch i'n stondin i gwblhau'r cod ar ein model Lego! 
  • Dewch i archwilio parc saffari rhithrealiti tanddwr cyntaf y byd, OceanRift, a gweld faint o anifeiliaid y gallwch chi eu gweld! 
  • Trïwch ein cacennau iachach ac ymunwch yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd. Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion yn cydweithio gyda Pennotec o Bwllheli a’r pobydd The Pudding Compartment yn Y Fflint, gan ddefnyddio pwlp afalau i wneud fersiynau iachach o hoff fwydydd y genedl heb gyfaddawdu dim ar y blas. 
  • Dewch i ddysgu sut mae eich corff yn gweithio ac archwilio modelau anatomegol gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. 
  • Rhowch gân i ni! Gall cystadleuwyr ac ymwelwyr ymarfer ar biano a ddarperir gan adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.  
  • Ymgollwch yn swigen Bangor – rydym yn cydweithio â’r busnes cynaliadwy, Dr Zigs Giant Bubbles, a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Paopla Dyboski-Bryant. Roedd y swigod yn boblogaidd iawn y llynedd gyda phlant ac oedolion! 
  • Cofiwch y bydd Aelwyd JMJ yn perfformio ar y stondin ddydd Sadwrn! Mae ganddynt ddiwrnod prysur o gystadlu, felly dymuniadau gorau iddynt. 
 Stand Prifysgol Bangor efo pobol yn sefyll y tu allan

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?