Grwp o nyrsus yn siarad

Dathlu 75 Mlynedd o'r GIG: Etifeddiaeth o Ragoriaeth ym Mhrifysgol Bangor

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu penblwydd y GIG yn 75 gyda llawenydd a balchder.

I nodi'r achlysur, mae'r Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, mewn cydweithrediad â thîm Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, yn lansio tudalen we Alumni Bangor GIG75 fel menter arbennig i anrhydeddu cyfraniadau ein cyn-fyfyrwyr i’r proffesiwn gofal iechyd.

Dros y blynyddoedd, mae Prifysgol Bangor wedi hyfforddi miloedd o raddedigion yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y GIG. O nyrsys a ffisiotherapyddion i radiograffwyr, bydwragedd, meddygon cyswllt, gwyddonwyr biofeddygol, a seicolegwyr, mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan ganolog wrth ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.

Mynegodd Dr Elizabeth Mason, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ei gwerthfawrogiad, gan ddweud, "Mae pen-blwydd y GIG yn 75 oed yn garreg filltir ryfeddol, sy'n arddangos y cyflawniadau a wnaed ar draws pob agwedd ar ofal iechyd. Mae wedi bod yn fraint i fod yn dyst i’n graddedigion yn cael effaith ystyrlon ar ddatblygu gofal cleifion.

Estynnir ein diolch a'n hedmygedd diffuant i'r GIG a'n cyn-fyfyrwyr uchel eu parch a byddwn yn parhau i ddathlu'r garreg filltir hynod hon yn y seremonïau graddio sydd i ddod.

Hoffem hefyd estyn ein diolch i’n holl gydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor, sy’n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi, addysgu a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae eu harbenigedd a’u hymroddiad yn cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant ein graddedigion ac ansawdd a phroffesiynoldeb gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gynhyrchir gan Brifysgol Bangor.''

Ategodd Emma Marshall, Pennaeth y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, “Rydym ni, ym Mhrifysgol Bangor, yn eithriadol o falch o’n cyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i weithio yn y GIG. Mae cyn-fyfyrwyr Bangor yn cyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol i lawer ac amrywiol o feysydd ein GIG. Rydyn ni’n diolch iddyn nhw ac yn eu hanrhydeddu wrth iddynt dathlu’r pen-blwydd hwn yn 75 oed.”

https://www.bangor.ac.uk/cy/gwyddorau-meddygol-iechyd/gig-75

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?