Fy ngwlad:
Group of men and women, some in hi viz jackets standing  and crouching in front of a van

Mae rhaglen arloesoli raddedigion yn helpu cyn-fyfyrwyr ar eu ffordd i'w gyrfaoedd

Mae cyn-fyfyriwr y Brifysgol ymysg rhai a fu'n cymryd rhan yn Rhaglen Cefnogi Graddedigion y Brifysgol a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae'n hen broblem, mae angen profiad i gael rhai swyddi ond yn amlwg mae angen rhywun i roi'r profiad hwnnw i chi, mae'n gylch dieflig," meddai Ian, cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Eifionydd.

Mae chwaraeon a hyfforddi'n ddiwydiannau cystadleuol iawn, felly roeddwn i'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyfleoedd, a pham dyna wnes i droi at Rhaglen Cefnogi Graddedigion Prifysgol Bangor.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sian a'r tîm, roedden nhw mor gefnogol ac yn help imi feithrin fy hyder at y dyfodol ac ymgeisio am swyddi, gan gynnwys y sefyllfa gyda Chamu i'r Copa.

Rwyf wrth fy modd. Cefais gyfle i weithio mewn gwahanol rannau o'r sefydliad, gan gynnwys marchnata a chyflwyno digwyddiadau. Mae'n wych ac yn brofiad hanfodol imi y gallaf ei roi ar fy CV a'i ddefnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Byddwn yn annog unrhyw gyn-fyfyriwr i ddilyn y llwybr hwnnw os ydynt yn cael trafferth cymryd y cam nesaf, rwy'n ddiolchgar iawn iddynt.

Ian Brown ,  Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor a chyn-ddisgybl Ysgol Eifionydd.

Helpu graddedigion gronni eu profiad gwaith

Cafodd Camu i'r Copa ei sefydlu yn 2010, ac maent yn arbenigo mewn amrywiol ddigwyddiadau, gan gynnwys triathlonau a deuathlonau yn yr awyr agored a cystadleuthau beicio a rasys rhedeg.

Dywed y Rheolwr Marchnata Emma McIntyre y bu'r cynllun graddedigion yn fodd iddynt gynnig llwybr i'r sector i bobl ifanc fel Ian.

"Mi wnaethon ni gyfarfod ag Ian a gallwn weld yn syth y byddai'n wych i'r cwmni, o ystyried ei frwdfrydedd dros chwaraeon," meddai.

"Mae wedi ffitio i mewn yn berffaith ac mae'n fwy na hapus i ymroi i unrhyw dasg. Gobeithiwn y bydd hynny'n rhoi profiad gwych iddo a gwybodaeth eang a sgiliau y bydd yn gallu eu defnyddio yn y dyfodol."

Ychwanegodd Emma: "Nid yn unig y bu'r interniaeth yn wych inni fel busnes bach, bu hefyd yn ffordd wych inni wneud cyfraniad. Helpu graddedigion gronni eu profiad gwaith sy'n hanfodol i'w helpu nhw symud ymlaen â'u gyrfaoedd at y dyfodol."

Ar y cyfan, helpodd Rhaglen Cefnogi Graddedigion Prifysgol Bangor 124 o gyn-fyfyrwyr, a 92 o'r rheini o gefndiroedd cymdeithasol ddifreintiedig. Mae mwy na 60% o'r rhai a fu'n ymwneud â'r cynllun bellach mewn cyflogaeth fel graddedigion, ac o'r 42 o fusnesau a fu'n ymwneud â'r prosiect, dywedodd 100% ohonynt y byddent yn gwneud hynny eto.

Dywedodd Sian fod hanes Ian yn gyffredin iawn ac roedd yn falch iawn o allu ei helpu ar y ffordd i'w swydd ddelfrydol.

"Rydym mor falch dros Ian ac yn dymuno pob llwyddiant iddo, mae ganddo'r awydd a'r brwdfrydedd i gyrraedd ei nodau felly gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn gosod sylfeini i yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hyfforddi," ychwanegodd.

"Mae'n bwysig cyfleu'r neges i'n graddedigion ein bod ni yma i chi hyd yn oed ar ôl i chi adael Prifysgol Bangor.

"Mae gennym ni gysylltiadau – yng Nghymru a thu hwnt – a all eich helpu chi gyrraedd lle rydych chi eisiau bod, yn ogystal ag arweiniad a chyngor am ddim.

"Mae Ian yn dangos pa mor allweddol yw'r gefnogaeth honno, a dymunwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol."

Gweler www.bangor.ac.uk/skills-and-employability i gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Graddedigion a gwasanaethau'r cyn-fyfyrwyr.