Mae athro o Brifysgol Bangor am gymryd rhan mewn uwch-gynhadledd genedlaethol i daclo'r argyfwng sy’n wynebu afonydd Cymru.
Bydd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol (Cynaliadwyedd) yn cynrychioli'r Brifysgol yn y digwyddiad a drefnir gan yr Eglwys yng Nghymru mis yma.
Bydd mwy na 90 o bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn cynnwys gwyddonwyr, ffermwyr, amgylcheddwyr a chynrychiolwyr y diwydiant dŵr yn dod ynghyd i drafod yr heriau sy’n wynebu cyrsiau dŵr yng Nghymru ac i edrych ar ffyrdd o wella ansawdd dŵr.
Caiff yr uwch-gynhadledd Adfer Afonydd Cymru, a gadeirir gan Archesgob Cymru, ei chynnal dros ddau ddiwrnod, 7-8 Tachwedd, yn y Future Inn, yng Nghaerdydd, yn union cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Ieuenctid ar Newid Hinsawdd (COP29) ac Wythnos Hinsawdd Cymru. Bydd y panelwyr yn cyflwyno themâu allweddol dros bum sesiwn, gyda thrafodaeth a myfyrdod i ddilyn. Mae’r themâu yn cynnwys trosolwg o’r data gwyddonol diweddaraf, cyflwr ansawdd dŵr, effaith carthffosiaeth, pridd ac amaethyddiaeth ar afonydd, yr effaith ar y gadwyn fwyd a phosibilrwydd datrysiadau seiliedig ar natur.
Caiff pob sesiwn ei harwain gan banel o arbenigwyr o ystod eang o sefydliadau. Maent yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, River Action UK, y Comisiwn, Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a Chymdeithas y Pridd.
Bydd gwyddonwyr o bump o brifysgolion y Deyrnas Unedig hefyd yn cyfrannu. Dywedodd yr Athro Christian Dunn o Brifysgol Bangor, “Rydym yn ffodus tu hwnt yma yng Nghymru fod yr ymgyrch am afonydd glanach yn dod â chynifer o sefydliadau ynghyd, pob un ohonynt yn angerddol am wella ansawdd dŵr, tirweddau a chymunedau.
“Mae cael Archesgob Cymru i arwain hyn yn rhywbeth arbennig iawn ac mae Prifysgol Bangor yn falch iawn i fod yn un o sefydlwyr gwreiddiol yr uwch-gynhadledd.
“Gobeithio y bydd cael yr Archesgob yn arwain yr uwch-gynhadledd yn sicrhau y gall pawb ddod ynghyd mewn ffordd agored ac onest i drafod, nid yn unig y problemau sy’n ein hwynebu, ond hefyd yn hollbwysig y datrysiadau sydd ar gael i ni.
“Rwy’n wir yn credu y gall Cymru arwain y ffordd wrth fynd i’r afael gyda’r argyfwng llygredd dŵr sy’n wynebu cynifer o wledydd. Gallwn arwain y byd wrth drin y problemau cymdeithasol a defnyddio grym Datrysiadau sy’n Seiliedig ar Natur i lanhau ein hafonydd.”
Dywedodd yr Archesgob, Andrew John, “Mae ein hafonydd yng Nghymru yn marw oherwydd eu bod yn cael eu llygru. Mae bywyd gwyllt yn dirywio ac mae llawer o’n gweithgareddau ein hunain sy’n seiliedig ar ddŵr, tebyg i nofio, pysgota a syrffio yn gynyddol anniogel. Mae angen i ni ymateb fel mater o frys a dyna pam fod yr Eglwys yng Nghymru yn dod â phobl allweddol ynghyd sydd ag arbenigedd neu ddiddordeb yn y mater.
“Nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn fater cymhleth ac mae gofynion yn cystadlu fydd angen ymgysylltu cryf a mynegiant clir os yw sgwrs i lunio’r farn gyhoeddus a hefyd ddod yn bolisi neu uchelgais yn y parth gwleidyddol.
“Rwy’n falch iawn fod cynifer o’r rhai sydd â rhan allweddol yn y mater hwn wedi cytuno i gymryd rhan yn yr uwch-gynhadledd i rannu eu profiadau ac i glywed profiadau pobl eraill. Ein gobaith y byddwn yn medru canfod cytundeb am egwyddorion a’r cyfeiriad teithio sydd ei angen ac ymrwymo i sgwrs barhaus ble neu os nad oes yw cytundeb llwyr yn bosibl.”
Dywedodd Jeremy Wallace, Prif Swyddog Gweithredol River Action UK, “Rydym yn hynod falch i arweinyddiaeth gan ffigur allweddol yng Nghymru, yr Archesgob, ac i fedru helpu i gynllunio’r cyfarfod pwysig hwn o randdeiliaid traws-sector.
“Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar ein gilydd ac yn cydweithio i gytuno ar gynllun ar gyfer y ffyrdd mwyaf effeithlon a chyflym o iachau afonydd Cymru, tra’n sicrhau darpariaeth gwasanaethau hanfodol tebyg i garthffosiaeth a dŵr a bywoliaeth ffermwyr.
“Mae pawb angen digonedd o ddŵr glân a dyfrffyrdd iach. Mae ein heconomi, sefydliadau, diwydiant, diogelwch a chynhyrchu bwyd yn dibynnu arnynt. Gobeithiwn y bydd yr esiampl a roddir gan ein trefnwyr y gynhadledd hon yn ysbrydoli arweinwyr rheoleiddiwr, cwmnïau dŵr, amaethyddiaeth, sefydliadau anllywodraethol a grwpiau dylanwadol eraill i ddilyn eu hesiampl a gweithio er budd pawb gyda brys.”
Dywedodd Fergus O’Brien, Rheolwr Cyfalaf Naturiol a Chymdeithasol Dŵr Cymru, “Mae ffocws Dŵr Cymru ar ddiogelu’r amgylchedd a darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid. “Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda sectorau a sefydliadau eraill yn yr uwch-gynhadledd gan fod nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at lygredd afonydd. “Fel cwmni nid-er-elw nad yw’n talu difidend i randdeiliaid, rydym wedi medru buddsoddi mwy mewn ansawdd dŵr afonydd a gwella’r amgylchedd.”
Dywedodd yr Athro Bridget Emmett, Prif Wyddonydd Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a Llywydd y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, “Bydd yr uwch-gynhadledd bwysig hon yn gyfle i ni ganolbwyntio ar argyfwng sy’n effeithio arnom i gyd, ansawdd ein dŵr. Mae rheoli ein priddoedd mewn ffordd fwy cynaliadwy yn rhan allweddol o ddatrys yr argyfwng ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu gydag eraill sy’n bresennol i rannu syniadau ac i ysbryd o gyd-weithredu.”