Gwobr ym maes hanes morwrol i fyfyriwr o Fangor
Gwobr ym maes hanes morwrol i fyfyriwr o Fangor
Mae'n bleser gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg gyhoeddi bod Brython Wyn Edwards, sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf cwrs MArts 4 blynedd, wedi derbyn gwobr gan y British Commission for Maritime History am ei waith rhagorol ym maes hanes morwrol fel myfyriwr israddedig. Derbyniodd y wobr am draethawd hir ardderchog yn y drydedd flwyddyn a oedd yn canolbwyntio ar hanes Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg.
Mae'r ysgol yn eithriadol falch o'i lwyddiant ac yn ôl Owain Jones, a oruchwyliodd draethawd hir Brython 'mae Brython nid yn unig wedi edrych ar faes o hanes canoloesol sydd wedi'i esgeuluso, ond mae wedi canolbwyntio ar gyfnod a esgeuluswyd hyd yn oed gan haneswyr Manawaidd eu hunain, sef teyrnasiad brenin olaf Manaw, Magnus Olafsson. Ymhellach, mae wedi gosod yr astudiaeth wreiddiol hon yn effeithiol yng nghyd-destun datblygiad gwladwriaethau mwy eu maint a mwy canoledig yn Yr Alban a Norwy.' Cafodd gwaith Brython ei ganmol hefyd gan yr arholwr allanol, Dr Charles Insley (Prifysgol Manceinion) am 'fynd i'r afael â thestun hynod anodd a phrin ei dystiolaeth gyda medrusrwydd a chryn fesur o wreiddioldeb.'
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2015