Gwybodaeth am y Meini Prawf
Gyda mwy o fyfyrwyr yn ymgeisio i astudio neu weithio dramor yn ystod eu gradd, mae llefydd ar ein rhaglenni'n gystadleuol.
Edrychwn ar nifer o wahanol ffactorau tra'n dyrannu llefydd ar ein rhaglenni astudio neu weithio dramor i fyfyrwyr. Mae'r tebygrwydd o gael cynnig am le'n dibynnu ar faint o fyfyrwyr sy'n ymgeisio am yr un lle a'ch perfformiad yn y broses ymgeisio a cyfweld.
Dyma rhai o'r brif bwyntiau rydyn ni'n eu hystyried:
Graddau
Rhaid i ni ddewis myfyrwyr sy'n ddigon galluog i lwyddo gyda sialensau fel astudio mewn system academaidd gwahanol dramor.
Cymhelliant
Mae eich cymhelliant i astudio neu weithio dramor yn dangos i ni sut y gallwch fanteisio o'r profiad. Gadewch i ni wybod am unrhyw nodau academaidd neu broffesiynol sydd gennych y gall astudio neu weithio dramor eich helpu i'w cyflawni. Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn clywed am unrhyw gymhelliant personol, ond cofiwch mai profiad academaidd/broffesiynol yw hwn, nid gwyliau.
Rhinweddau Llysgenhadol
Mae'r myfyrwyr rydyn ni'n eu danfon dramor yn cynrychioli Prifysgol Bangor a hoffwn weld myfyrwyr sy'n frwdfrydig am gynrychioli Bangor yn dda mewn amgylchedd rhyngwladol.
Sgiliau Allweddol
Mae astudio neu weithio dramor pob tro'n annodd, a rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr gyda'r sgiliau i addasu at sefyllfaoedd newydd, er enghraifft, sgiliau cyfathrebu da, annibyniaeth, aeddfedrwydd a'r gallu i gymryd cyfrifoldeb.
Geirda
Mae geirda academaidd da'n rhoi argraff dda i ni. Bydd rhaid i'ch canolwr nodi os basent yn eich argymell i gynrychioli Bangor yn un o'n prifysgolion partner neu mewn cwmni dramor, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am eich perfformiad academaidd a'ch ymrywmiad i'ch cwrs.
Dylwn i Ymgeisio?
Gall astudio neu weithio dramor olygu newid sylweddol i amseru, strwythyr a chynnwys eich gradd. Gall fod yn ddrud, ac efallai y bydd rhaid i chi ymrwymo lot o amser ac egni i baratoi ar gyfer eich lleoliad. Mae'n bwysig i chi ystyried y pwyntiau canlynol cyn i chi ymrwymo i wneud cais i astudio neu weithio dramor:
- Fedra i fforddio astudio neu gweithio dramor yn y cyrchfan(nau) rwy'n ymgeisio amdanynt?
- Pa ffynhonellau cyllido fydd ar gael tra i mi fod dramor, os o gwbl?
- Beth ydy'r costau byw cyfartalog yn y cyrchfan(nau) rwy'n ymgeisio amdanynt, ac oes rhaid i mi ddangos tystiolaeth o arian (e.e. cyfriflenni banc) wrth ymgeisio am fisa?
- (Astudio yn unig) Oes dewis digonnol o fodiwlau ar gael yn y prifysgolion partner rwy'n ymgeisio amdanynt?
- (Os yn ymgeisio am Flwyddyn o Brofiad Rhyngwladol) Hoffwn i astudio neu weithio mewn maes sy'n berthnasol i bwnc fy ngradd, neu hoffwn i drio rywbeth gwahanol?
- (Gweithio yn unig) Oes unrhyw gyngor ffurfiol yn erbyn teithio at y cyrchfan rwy'n ymgeisio amdano (cliciwch yma i ddarllen Cyngor Teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad)?
- Fydd angen i mi drefnu i gael cefnogaeth ar gyfer angen arbennig, anabledd neu wahaniaeth dysgu tra i mi fod dramor?
- Beth ydy iaith gynhenid y wlad rwy'n ymgeisio amdani, ac oes rhaid i mi ddysgu dipyn o'r iaith cyn mynd?
- (Astudio yn unig) Oes gan y prifysgolion partner ar fy rhestr flaenoriaeth unrhyw ofynion mynediad fel isafswm marciau (GPA - Grade Point Average)?
- (Myfyrwyr rhyngwladol yn unig) All y dewis i astudio neu weithio dramor effeithio fy fisa i'r DU?
- Ai nawr ydy'r amser gorau i ymgeisio?
Nid yw'r rhestr hon yn un cyflawn o'r pwyntiau y dylwch eu hystyried cyn ymgeisio. Mae llawer o ffactorau rhaid i fyfyrwyr eu hystyried yn rhai unigryw iddyn nhw. Siaradwch â'r cydlynydd rhyngwladol yn eich ysgol academaidd cyn gwneud eich cais.