Fy ngwlad:
Sgôr cerddoriaeth

Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio

Canolfan o ragoriaeth gerddorol ers dros ganrif.

Mae Prifysgol Bangor yn ganolfan o ragoriaeth gerddorol ers dros ganrif, ers penodi ein Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf ym 1921. Yn fwy diweddar, rydym wedi cyfuno â Drama a Pherfformio er mwyn cynnig dewis helaethach fyth i’r myfyrwyr dros ystod unigryw o gyrsiau.

Myfyriwr yn chwarae offeryn cerdd mewn cerddorfa

Amdanom ni

Mae’r Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio yn ganolog iawn i Brifysgol Bangor, ac mae gennym ein hadeilad ein hunain ar y prif gampws, a chaffis a mannau dysgu cymdeithasol ar garreg ein drws.

Mae gennym ni stiwdios a chyfleusterau cerdd pwrpasol a mannau perfformio proffesiynol i chi fanteisio arnynt yn ystod eich astudiaethau.

Côr Siambr Prifysgol Bangor

Corau a Cherddorfeydd

Rydym yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau Cerddorfa a Chorws Symffoni Prifysgol. Bydd hon yn flwyddyn arbennig wrth i ni ddathlu 100 mlynedd o greu cerddoriaeth ym Mangor, dan faton ein Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol newydd, Gwyn L Williams. Felly, rydym yn gwahodd pawb sy'n dymuno cymryd rhan i gofrestru eu diddordeb fel mewn blynyddoedd blaenorol. Bydd sefyllfa wrth gwrs yn cael ei hadolygu, gan ddilyn holl ganllawiau priodol Llywodraeth Cymru.