Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn y Cwad, Prif Adeilad y Brifysgol

Ehangu Mynediad

Codi dyheadau, eich cefnogi i gyflawni gyrfa gynaliadwy, y tu hwnt i'r brifysgol.
 

Ein gwaith gyda:

Siarad â ni

Beth ydym ni’n ei wneud?

yn cynnwys adnabod unigolion o gefndiroedd difreintiedig sydd â photensial mawr.

gall hyn gynnwys myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig, myfyrwyr gyda nodweddion gwarchodedig, gofalwyr a myfyrwyr sy'n gadael gofal.

datblygu sgiliau sy'n paratoi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir at astudio mewn addysg uwch.

mewn ardaloedd lle mae nifer y cyfranogwyr yn isel.

i hyrwyddo astudio mewn Prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg

 ddarparu cyfleoedd addysgol yn lleol i'r rhai hynny y mae rhwystrau daearyddol yn eu rhwystro rhag cael mynediad at Addysg Uwch.

Gofalwyr Ifanc a Phobl sydd â phrofiad o ofal

Codi dyheadau, cyrraedd llwyddiant.

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr ifanc a'r rhai sydd â phrofiad o ofal i gwrdd â'u dyheadau mewn addysg ac yn y gweithle.

 Ein diffiniad ni o Ofalwr yw: 

Rhywun sy’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, anawsterau iechyd meddwl neu rywun sy’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu hapchwarae/gamblo.

 Rydym yn deall efallai bod gennych bryderon sydd yn ymwneud gyda materion fel cyllid, cydbwyso astudio gyda cyfrifoldebau gofalu a gadael y rhai sydd yn dibynnu arnoch am ofal.

Pobl sydd â phrofiad o ofal:

Mae rhywun sydd gyda phrofiad o ofal yn golygu y byddwch wedi bod yng ngofal eich awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ar unrhyw adeg ers yn 14 oed.

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Ysgol Breswyl i Ofalwyr Ifanc- Mawrth 25-27, 2024

Os ydych chi'n ofalwr ifanc sydd â diddordeb mewn mynychu ein ysgol breswyl eleni, cysylltwch â'ch darparwr gofal lleol i archebu eich lle.

Gofalwr yn gafael llaw y claf

Mae Bangor yn ymwybodol o ofal

Mae profiad o ofalu yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr. Er hyn, gall hefyd effeithio ar les corfforol ac emosiynol Gofalwyr. Mae Prifysgol Bangor yn ymwybodol o hyn ac wedi sefydlu ei Pholisi Gofalwyr i helpu cefnogi staff a myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal.

Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc a Pobl â Phrofiad o Ofal

Rydym yn deall gall bywyd academaidd fod yn heriol. Pe baech yn teimlo eich bod am ddatgelu eich amgylchiadau ai peidio, rydym yma i'ch cefnogi mewn sawl ffordd.

  • Staff wedi ei benodi yn arbennig ar gyfer gofalwyr.
  • Cefnogaeth academaidd gan gynnwys hyblygrwydd gyda dyddiadau cau, gofynion mynediad a chefnogaeth gyda llwyth gwaith.
  • Bwrsariaeth gofalwyr o £1,000
  • Cefnogaeth Iechyd a Lles.
  • Mae'r system 'Portal Bangor' yn roi y cyfle i chi ddatgan eich statws gofalwr fel bod  eich tiwtor personol yn ymwybodol o'r sefyllfa.
  • Gwasanaeth 'galw heibio'- rydym yn cynnig gwasanaeth anffurfiol trwy gydol y broses o wneud cais i'r Brifysgol. 
  • Cerdyn adnabod i ofalwyr.

Myfyrwyr â Phrofiad Gofal 

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a rhoi cefnogaeth iddynt. Rydym yn cynnig gwasanaeth lles cynhwysfawr i fyfyrwyr, felly fel myfyriwr sydd wedi gadael gofal i ddod i Addysg Uwch, neu fel rhywun sy’n rhoi cyngor i fyfyriwr â phrofiad gofal, gallwch fod yn sicr y cewch y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol ym Mangor. Mae’r gefnogaeth hon i’w chael o’r cam cyntaf, tra byddwch yn dal i geisio penderfynu lle neu beth i’w astudio, ac mae’n parhau ar gael i chi drwy’r broses gwneud cais am brifysgol ac ar ôl i chi ddechrau ar eich cwrs yma.

 

Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal

Ym Mhrifysgol Bangor, gallwn ddarparu’r canlynol:

  • Arweiniad ar rag-fynediad gan ein Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd, cymorth i lenwi eich ffurflen Cais am Gyllid Myfyrwyr a chymorth a chefnogaeth yn ystod proses gwneud cais a derbyniadau’r brifysgol. 
  • Cymorth gan arweinwyr cyfnod i bob myfyriwr i’w helpu i ymgartrefu yn ystod yr Wythnos Groeso ac wythnosau cyntaf y tymor. 
  • Cymorth ariannol wedi ei glustnodi ar gyfer rhai sydd wedi â phrofiad gofal, drwy gyfrwng bwrsariaethau a Chronfa Caledi y Brifysgol.Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael £1,000y flwyddyn gan Brifysgol Bangor yn ychwanegol at unrhyw  fwrsariaethau neu grantiau eraill y gellwch fod yn gymwys i’w derbyn. 
  • Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr integredig, sy’n cynnig mynediad rhwydd at wasanaethau cymorth ariannol, llety, anableddau,iechyd meddwl a chynghori  myfyrwyr. 
  • Cyfarfodydd rheolaidd rhwng y cyswllt penodol a’r myfyrwyr sydd â phrofiad gofal i ganfod eu hanghenion cymorth, gyda chyswllt rhwng adrannau’r Brifysgol ac asiantaethau allanol fel bo’n briodol (a gyda chaniatâd pendant y myfyriwr). 
  • Sicrwydd o lety ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ar gwrs israddedig a chynllunio a threfnu llety i chi ar gyfer amser tymor ac amser gwyliau. 
  • Cyfrinachedd llwyr i fyfyrwyr sydd o gefndir gofal o safbwynt darparu gwasanaeth a threfniadau penodol.

 

 

Ysgol Breswyl i Gofalwyr Ifainc

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn croesawu gofalwyr ifanc i Ddigwyddiad Preswyl, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed i gael blas ar fywyd prifysgol a'r gefnogaeth a gynigir iddynt yma ym Mangor. Yn ystod y digwyddiad, mae llawer o ysgolion academaidd yn cyflwyno sesiynau blasu pynciol. Caiff y bobl ifanc gyfle i edrych o gwmpas y brifysgol, Pontio, Undeb y Myfyrwyr a manteisio ar y cyfleusterau hamdden yng Nghanolfan Brailsford cyn treulio noson yn llety'r brifysgol.

 

Thank you so much for providing such an inspirational and rewarding residential. The young carers were really buzzing afterwards as were the staff! Roll on next year!

Carers Outreach Staff

 

Mae UCAS wedi cyflwyno rhan newydd yn y cais i alluogi chi i rannu mwy o wybodaeth am eich amgylchiadau gyda’r brifysgol – gan gynnwys a oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu. Mae'r wybodaeth yma yn golygu y gallwn cysylltu gyda chi  â chymorth ar gyfer eich anghenion yn gyflym a sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
 

 

 
Rhoddir cymorth ac adnoddau ychwanegol i ofalwyr sy'n mynychu'r brifysgol gan ddarparwyr gofal lleol a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth ymarferol fel darparu dillad gwely, offer a thywelion.


Bydd y cerdyn adnabod  yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i hysbysu darlithwyr, staff, a gwasanaethau cymunedol megis canolfannau hamdden a thrafnidiaeth leol, eu bod yn gofalu am rywun.
 

 

 

Rydym ni yn gweithio mewn partneriaeth gyda Ymestyn yn Ehangach ar amrywiaeth o brosiectau.

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn broject a gyllidir gan HEFCW. Ein cenhadaeth yw creu cysylltiad ag ysgolion cynradd ac uwchradd, oedolion 21 oed a hŷn heb unrhyw gymwysterau addysg uwch, o ddau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. 

Reaching Wider mentoring advert
Reaching Wider logo

 

 

 

 


 

Mae bod yn ofalwr llawn amser ac yn fyfyriwr llawn amser yn anodd ond mae staff y Brifysgol yn hynod gefnogol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w wneud ychydig yn haws.

Myfyriwr Prifysgol Bangor

 

Myfyrwyr Hŷn

Rydym yn falch iawn o groesawu myfyrwyr o bob cefndir ym Mangor.  Os rydych chi dros 21 oed, rydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr aeddfed. Dyma rhagor o wybodaeth a chyngor i helpu ar eich llwybr newydd.

  
Cefnogaeth i Fyfyrwyr Hŷn

Mae ein cefnogaeth i fyfyrwyr hŷn yn cynnwys:

Eisiau sgwrs?

Image of illustration showing two girls talking through devices

Siarad â ni Archebu slot

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, archebwch sgwrs gyda ein Swyddog Ehangu Mynediad cyfeillgar a phrofiadol.