Yn gyffredinol bydd angen llythyr geirda gan ganolwr addas (nid aelod o'ch teulu neu berthynas i chi fel rheol) fel rhan o'ch cais. Eich cyfrifoldeb chi yw darparu'r geirda hwn, ynghyd â manylion cyswllt llawn y canolwr. Dyma ychydig o ganllawiau am lythyrau Geirda;
- Dylai graddedigion diweddar ddarparu geirda academaidd e.e. gan y sefydliad diwethaf y bu i chi astudio ynddo. Ond os ydych yn gwneud cais yn unol â'r rheolau i fyfyrwyr hŷn, cyflogwr perthnasol ddylai ysgrifennu eich tystlythyr.
- Mewn rhai achosion lle mae angen gwybodaeth bellach, efallai y bydd y Brifysgol yn dymuno cysylltu'n uniongyrchol â'r canolwr. Felly cynghorir chi fod angen i'r llythyr geirda gynnwys manylion cyswllt (e-bost a rhifau ffôn) y canolwyr.
- Gellwch naill ai gyflwyno'r llythyr Geirda ynghyd â'ch cais, neu gall y canolwyr ddewis anfon eu llythyrau geirda yn uniongyrchol at y brifysgol drwy e-bost neu bost i'r cyfeiriadau canlynol;
- I ymgeiswyr o'r Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd:
Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, y Deyrnas Unedig, E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
- I Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Y Ganolfan Addysg Ryngwladol, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, y Deyrnas Unedig, E-bost: international@bangor.ac.uk
- I ymgeiswyr o'r Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd: