Datblygu'r gweithle o safbwyntiau seicolegol, ffisiolegol ac iechyd.
Mae busnesau yng Nghymru ac Iwerddon yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad ar-lein rhad ac am ddim i’w helpu i ddatblygu iechyd a lles yn y gweithle.
Mae Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) yn cysylltu busnes, y byd academaidd a gofal iechyd ag arbenigwyr o chwe phrifysgol flaenllaw ar draws Iwerddon a Chymru. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim diweddaraf yn cael ei drefnu gan y gangen CALIN ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r digwyddiad ar-lein sy’n cael ei gynnal rhwng dydd Mawrth a dydd Iau, 7 - 9 Chwefror, yn cynnig cyfle i fusnesau fynd i’r cyfan neu ddewis o blith amrywiaeth o weithdai, rhwydweithio ac ymgynghoriadau ar wahanol agweddau ar les. Darperir y rhain gan arbenigwyr mewn seicoleg, ffisioleg ac iechyd, a byddant yn cefnogi ac yn annog busnesau i ddatblygu a gwella eu gweithleoedd. Gall y rhai sy’n dod hefyd arddangos a hyrwyddo eu busnesau yn y digwyddiad, a derbyn canllawiau ymarferol o'r sesiynau gweithdy.
Mae'n ofynnol yn gynyddol i fusnesau ganolbwyntio ar iechyd a lles ac i ddangos eu heffaith ar gymdeithas ac yn y gweithle, felly rydw i wrth fy modd bod CALIN ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal y digwyddiad cyffrous hwn a fydd yn eu helpu i gyflawni’r her honno.
Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ledled Cymru ac Iwerddon wneud cysylltiadau ac elwa ar wybodaeth gyfredol sy’n seiliedig ar ymchwil am iechyd a lles sy’n berthnasol i ystod eang o ddiwydiannau.
Bydd rhwydweithio yn y digwyddiad yn annog busnesau, academyddion, ac arbenigwyr gofal iechyd i ddatblygu cydweithrediadau newydd a sbarduno arloesedd yn y dyfodol i fentrau hen a newydd.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch calin@bangor.ac.uk neu cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn.