Ar un adeg roedd mangrofau yn cael eu gweld fel corsydd digroeso llawn malaria, ac roedden nhw ymhlith y cynefinoedd a oedd yn diflannu gyflymaf yn y byd. Nawr, gyda mewnbwn gan Brifysgol Bangor, mae un project cymunedol yn Kenya yn gweithio i adfer mangrofau mewn project sydd o fudd i gymunedau lleol.
Mae Dr Martin Skov o'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn rhan o'r bartneriaeth yn ne Kenya. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar bartneriaeth hirdymor rhwng Dr James Kairo o Sefydliad Ymchwil Môr a Physgodfeydd Kenya (KMFRI), yr Athro Mark Huxham o Brifysgol Napier Caeredin, Dr Martin Skov o Brifysgol Bangor, a chydweithwyr eraill.
Sefydlodd y bartneriaeth brojectau masnachu carbon cyntaf y byd yn deillio o ddiogelu system fôr. Cafodd project cymunedol Mikoko Pamoja (sy’n golygu Mangrofau ar y Cyd yn Swahili) yn ne Kenya ei achredu yn 2013 ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae ail broject, Vanga Blue Forests, wedi'i greu ers hynny ac mae mwy ar y gweill. Sefydlodd y tîm yr elusen ACES i reoli masnachu credydau carbon sy'n deillio o warchod mangrofau, a hyrwyddo projectau cadwraeth gydag ecosystemau arfordirol yn Affrica. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan ACES.
Esbonia Martin,
“Mae mangrofau yn digwydd ledled y byd yn y trofannau, yn enwedig o fewn pum gradd i'r cyhydedd. Cânt eu hadnabod fel ecosystemau carbon glas, ac maent yn gartref i gorsydd dŵr heli, peithiau morwellt, a choedwigoedd morol. Mae mangrofau yn hanfodol i newid hinsawdd. Dim ond 0.1% o arwyneb y ddaear y maen nhw'n ei orchuddio ond maen nhw'n dal ac yn storio bron i bum gwaith yn fwy o garbon na choedwigoedd glaw. Pan fydd coed ar y tir yn marw maen nhw'n rhyddhau carbon i'r atmosffer. Gyda mangrofau, fodd bynnag, mae carbon yn cael ei ddal yn y gwreiddiau a'r mwd lle gall aros, o dan y dŵr, am filoedd o flynyddoedd.”
Nawr, diolch i fuddsoddiad a phrojectau fel Mikoko Pamoja, mae sefydliadau'n talu am blannu a chadwraeth mangrofau, er mwyn gwrthbwyso eu carbon. Mae hyn nid yn unig yn helpu'r mangrofau; mae’n helpu cymunedau lleol i ffynnu ac mae’n enghraifft o’r gwaith sy’n newid y byd a wneir ym Mhrifysgol Bangor.