I ddathlu Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2 Chwefror) bydd Craig Bennett, Prif Swyddog Gweithredol The Wildlife Trusts yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar ddyfodol cadwraeth natur yn y Deyrnas Unedig a’r hyn y mae angen ei wneud i gyrraedd y targedau bioamrywiaeth.
Cafodd Craig ei ddisgrifio fel “one of the country’s top environmental campaigners” a chan The Guardian fel “the very model of a modern eco-general” ac mae wedi cael ei gynnwys yn yr 20 uchaf yn The Sunday Times Green Power List o amgylcheddwyr pennaf y Deyrnas Unedig.
Cyn cael ei benodi’n bennaeth The Wildlife Trusts, Craig oedd Prif Swyddog Gweithredol Cyfeillion y Ddaear lle arweiniodd y sefydliad mewn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gynnwys ymgyrchoedd gwenyn, llygredd plastig a ffracio ac ymgyrch yn erbyn ehangu Maes Awyr Heathrow.
Wrth siarad am ei ymweliad â Phrifysgol Bangor, dywedodd Craig: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at siarad ym Mhrifysgol Bangor. Mae addysgu ac ymchwil y brifysgol yn aruthrol mewn cymaint o feysydd sy’n hanfodol i gadwraeth a’r amgylchedd. Mae hefyd yn wych cael siarad ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, gan fod cynefinoedd gwlyptir yn rhan hanfodol o dirwedd y Deyrnas Unedig. Mae gwlyptiroedd wedi cael eu disgrifio fel archarwyr byd natur gan eu bod yn ferw gwyllt o fioamrywiaeth: nhw’n sy’n glanhau ein dyfrffyrdd ac yn amddiffyn ein harfordiroedd, fe allan nhw wella ein lles corfforol a meddyliol ac maen nhw’n helpu i atal llifogydd a hyd yn oed yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd.”
Dywedodd Dr Christian Dunn, o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, a fydd yn croesawu Craig: “Mae’n wych gallu croesawu siaradwr o galibr a phrofiad Craig i Fangor – mae’n un o’r amgylcheddwyr mwyaf blaenllaw yn y wlad ac yn gwneud gwaith gwych i sicrhau bod lleisiau 900,000 o aelodau The Wildlife Trusts yn cael eu clywed ar lefelau uchaf llywodraeth. Rwy’n edrych ymlaen at ei sgwrs gan ei fod yn siŵr o ysgogi’r meddwl - fydd o’n sicr ddim yn dal yn ôl wrth drafod pwnc sydd mor bwysig iddo.”
Bydd Craig Bennett yn siarad am 5pm ar ddydd Iau 2 Chwefror, 2023, yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
I archebu eich lle yn rhad ac am ddim cliciwch yma