Mae Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn gweithio gyda Chyngor Sir Dinbych er mwyn helpu i lywio a gwella datblygiad mannau gwyrdd yn y Rhyl.
Bydd y partneriaid yn edrych ar farn y cyhoedd ynghylch newidiadau i fannau gwyrdd o amgylch yr ardal, a sut gall y wybodaeth hon lunio gwaith adfer natur yn y dyfodol.
Yn rhan o’i Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, mae’r Cyngor yn bwriadu datblygu glaswelltiroedd blodau gwyllt trefol a choetir newydd yn y Rhyl ac ar draws y sir.
Mae manteision y gwaith hinsawdd ac ecolegol hwn yn cynnwys gwell bioamrywiaeth, storio carbon, dileu llygredd aer a lleihau sŵn, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol ar iechyd a lles.
Bydd y prosiect ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn ychwanegu at ddata arolwg cymdeithasol a bioamrywiaeth sy’n bodoli o fentrau blaenorol yn y Rhyl, a bydd yn defnyddio modelau newydd i gyfrifo’r buddion o storio carbon ychwanegol, gwell ansawdd aer a llai o sŵn.
Bydd ymgysylltu’n digwydd â rhai o’r trigolion sy’n byw ger cynlluniau bioamrywiaeth newydd arfaethedig, ynghyd ag arolygon ar-lein ledled Cymru.
Bydd y rhain yn archwilio barn pobl ynghylch manteision bioamrywiaeth ac yn sicrhau gwell dealltwriaeth o’u barn nhw a faint o gefnogaeth sydd i gynlluniau fel plannu coed a dolydd blodau gwyllt.
Bydd y cyfuniad o farn trigolion a monitro a modelu gwyddonol yn y prosiect hwn yn helpu i lywio gwaith cynllunio’r prosiect a phenderfyniadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n falch o fod yn cydweithio â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU ar y prosiect cydweithio pwysig hwn a fydd yn ein helpu ni i fapio dulliau o ran gwaith ecolegol gadarnhaol yn y dyfodol, yn y Rhyl ac ar draws y sir.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld nodweddion y mae modd eu darparu o’r prosiect, a fydd yn cynnwys canlyniadau dadansoddiad cyd-fuddion, fel gwell ansawdd aer, llai o sŵn; canfyddiadau o arolygon a chyfweliadau â thrigolion lleol; a chanllawiau i’n helpu ni i gynllunio a gweithredu gwelliannau bioamrywiaeth newydd gan ymgysylltu â’r cyhoedd yn fwy.
“Bydd canlyniadau’r prosiect yn helpu i gefnogi gwell darpariaeth a buddion ein prosiectau hinsawdd a newid ecolegol, i gynorthwyo ein cyfraniad at adferiad natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd.”
Dywedodd yr Athro Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Lleoedd Newid Hinsawdd: “Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle unigryw i sefydlu cysylltiadau pwysig rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a Phrifysgol Bangor, gan gynnwys y cyhoedd. Rydym ni’n gyffrous i ddysgu sut mae barn pobl yn cysylltu â chynlluniau’r Cyngor a buddion mesuradwy a gaiff eu creu gan y camau hyn sy’n berthnasol i’r hinsawdd. Ein gobaith ar gyfer y dyfodol yw cyd-greu datrysiadau cyfeillgar i’r hinsawdd sy’n gwneud synnwyr i bawb.”
Dywedodd yr Athro Laurence Jones, arweinydd thema trefol yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU: “Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a Phrifysgol Bangor, a defnyddio’r modelau diweddaraf i gyfrifo sut mae mannau gwyrdd mewn cymdogaethau’n gwella’r amgylchedd lleol i drigolion y Rhyl.”
Mae'r gwaith hwn wedi’i gefnogi gan grant RECLAIM Network Plus a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) (EP/W034034/1).