Y Prif Weinidog yn ymweld â Bangor ac yn cyhoeddi’r camau nesaf i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Bu Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru yn ymweld â’r Brifysgol heddiw, gan gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o leoliadau i fyfyrwyr meddygaeth bob blwyddyn yn Ysgol Feddygaeth newydd y Gogledd.
Yn ystod cyfarfod â chydweithwyr wedi ei arwain gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke a Phennaeth Gweithredol yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Rhyngbroffesiynol, Yr Athro Mike Larvin, dywedodd y Prif Weinidog:
"Bydd Ysgol Feddygaeth newydd yn y Gogledd yn ein helpu i hyfforddi'r staff meddygol sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.
"Rwy'n falch y bydd cymaint o fyfyrwyr yn gallu astudio yn y Gogledd ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n aros i weithio yn y cymunedau hynny ar ôl iddyn nhw orffen astudio.
"Mae hyn yn newyddion da i'r myfyrwyr, i bobl y Gogledd ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos at gartrefi pobl â phosibl."
Bu'r Prif Weinidog hefyd yn cwrdd â myfyrwyr sy'n elwa ar dechnoleg o'r radd flaenaf ar gyfer astudio anatomeg. Cafodd y cyfleuster gymorth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a'r myfyrwyr yw'r garfan gyntaf o raddedigion Prifysgol Caerdydd i fod wedi derbyn y rhan fwyaf o'u haddysg yn y Gogledd.
Bydd ysgol feddygaeth y Gogledd yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr hyfforddiant yn dechrau yn 2024 gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu tan i’r ysgol gyrraedd capasiti llawn o 2029 ymlaen. Drwy gynyddu nifer y myfyrwyr yn raddol, bydd amser i asesu a gwerthuso ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr yn yr ysgol feddygaeth newydd.
Meddai’r Is-ganghellor. Yr Athro Edmund Burke, “Fel Prifysgol a arweinir gan ymchwil, mae wedi bod yn uchelgais gennym ers tro i gael ysgol feddygaeth yng ngogledd Cymru. Mae ein partneriaeth â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i gyflwyno rhaglen feddyginiaeth lawn a gallwn nawr dyfu’r capasiti hwnnw a datblygu ysgol feddygaeth i ogledd Cymru i hyfforddi meddygon yn y rhanbarth ac er budd yr economi ranbarthol.
“Bydd ysgol feddygaeth yn y Gogledd yn chwarae rhan bwysig yn adferiad ôl-bandemig y rhanbarth ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi twf sector iechyd a gwyddorau bywyd ffyniannus yng Ngogledd Cymru.”