Nod y projectau hyn yw gwella ein dealltwriaeth o gyfansoddiad tirweddau coed ledled y DU, eu gwerth i bobl a'r cyfraniad y gallant ei wneud i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae cyfranogiad Prifysgol Bangor mewn cymaint o'r projectau ymchwil yn adlewyrchu gallu’r sefydliad ym maes ymchwil coedwigaeth a chadwraeth, a gwaddol 100 mlynedd y brifysgol yn y maes hwn.
Mae’r projectau ymchwil dwy flynedd yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i gynyddu maint a nifer y coetiroedd ledled y wlad.
Bydd y cyntaf o’r projectau hyn yn ymchwilio i wytnwch ar draws coetiroedd y wlad, gyda’r ail yn helpu rheolwyr tir i leihau difrod a achosir gan geirw.
Mae coedwigoedd a fforestydd yn gyfrifol am tua 13% o arwynebedd tir y DU, ond uchelgais llywodraeth y DU yw cynyddu hyn i 17% fel rhan o gynlluniau’r DU i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.
Rhaid i goetiroedd, boed yn hen neu’n newydd, fod â’r amrywiaeth a’r gwytnwch i ymdopi â’r bygythiadau a ddaw gyda newid yn yr hinsawdd, plâu ac afiechydon coed.
Bydd y project DiversiTree yn rhoi'r wybodaeth a'r dulliau angenrheidiol i reolwyr coetiroedd wneud ein coedwigoedd a'n fforestydd yn fwy gwydn.
O dan DiversiTree, bydd ymchwilwyr o Ganolfan Syr William Roberts Prifysgol Bangor yn ymchwilio i strategaethau ar gyfer creu amrywiaeth o goetiroedd ym Mhrydain. Mae rheolwyr coedwigoedd ar flaen y gad o ran ymdrechion i ddiogelu coed, coedwigoedd a fforestydd Prydain at y dyfodol rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau. Bydd Dr Norman Dandy a Seumas Bates yn dadansoddi dealltwriaeth bresennol rheolwyr a’u huchelgeisiau ar gyfer amrywiaeth o goetiroedd trwy ymchwil astudiaeth achos yn Lloegr a'r Alban. Bydd hyn yn darparu’r sail ar gyfer sefydlu polisi a chefnogaeth yn y dyfodol wrth i’r llywodraeth ddiwygio polisi amgylcheddol ers gadael yr UE.
Dywedodd Dr Norman Dandy:
“Bydd ymchwil DiversiTree yn ein galluogi i ddeall sut maent yn gweld y bygythiadau hyn a gallu eu coedwigoedd i ymdopi â nhw, a fydd yn ei dro yn llywio ymdrechion i gefnogi eu hymatebion rheoli.”
iDeer
iDeer
Gan weithio mewn partneriaeth â rheolwyr tir yng Nghoedwig Elwy yng Ngogledd Cymru, bydd y project iDeer yn cyd-ddatblygu dull i helpu perchnogion tir a rheolwyr coetir i ddylunio cynlluniau plannu coed sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau negyddol posibl ceirw.
Mae poblogaethau ceirw wedi cynyddu’n gyflym yn y degawdau diwethaf ac mae’r DU yn gartref i chwech o rywogaethau gwahanol. Gall yr anifeiliaid carismatig hyn effeithio ar dwf coetir a’u sefydlu trwy dynnu rhisgl a bwyta coed ifanc, glasbrennau ac eginblanhigion. Mae’r difrod hwn yn her ddifrifol i darged y llywodraeth i gynyddu coetir gydag un rhan o dair a chyflawni ei tharged sero net erbyn 2050.
Dywedodd Dr Graeme Shannon:
“Mae ceirw yn chwarae rhan hollbwysig yng ngweithrediad coetiroedd iach ond mae trawsnewid tir yn helaeth a chynnydd cyflym ym mhoblogaeth ceirw wedi arwain at wrthdaro rhwng ceirw ac amcanion defnydd tir pobl. Bydd iDeer yn ein galluogi i ddarparu canllawiau penodol i dirfeddianwyr a rheolwyr coetir o ran rheoli poblogaethau ceirw ledled Cymru a Lloegr yn gynaliadwy.”
Dywedodd Dr Freya St John,
“Rydym wedi ein cyffroi’n fawr gan y cyfle hwn i weithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr, yn Nyffryn Elwy i ddechrau, i gyd-ddatblygu’r dull o gefnogi penderfyniadau iDeer a fydd â gwybodaeth rheolwyr tir am arferion rheoli ceirw a choetiroedd yn rhan greiddiol ohono”.
Yn eu ffordd unigryw eu hunain, bydd pob un o'r projectau hyn yn tynnu ar arbenigedd staff Prifysgol Bangor i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar ehangu tirweddau coed yn y dyfodol er budd yr amgylchedd a chymdeithas. Gallai’r penderfyniadau hyn gynnwys, er enghraifft, ble i leoli coetir newydd, pa rywogaethau coed i’w plannu, a ble i osod ffensys.
Mewn rownd ariannu gynharach o dan raglen Treescapes UKRI, cyfrannodd Bangor at y project MEMBRA (Understanding Memory of UK Treescapes for Better Resilience and Adaptation) a fydd yn archwilio a yw coed yn cofio amodau straen yn y gorffennol ac yn trosglwyddo’r atgofion hyn i ddisgynyddion trwy addasiadau DNA seiliedig ar epigeneteg.