O fod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon, mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi ei bod bellach wrthi’n recriwtio myfyrwyr ar gyfer mis Medi 2024. Mae hyn yn gam arwyddocaol yn nhaith y brifysgol tuag at gael achrediad ffurfiol ar gyfer Ysgol Feddygol newydd gogledd Cymru.
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn darparu rhaglen Meddygaeth C21 Prifysgol Caerdydd yng ngogledd Cymru ers 2019 mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a meddygon teulu o bob rhan o'r rhanbarth a bu i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr raddio eleni.
Bydd y rhaglen newydd yn parhau i fod yn gydnaws â chwricwlwm meddygol rhaglen C21 Prifysgol Caerdydd, yn dilyn cefnogaeth gref gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer proses gymeradwyo a monitro'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adlewyrchu ymroddiad Prifysgol Bangor i ddarparu cyfleoedd addysgol sydd â chysylltiadau dwfn â'r gymuned leol, mewn partneriaeth a’i phartneriaid iechyd meddwl ledled rhanbarth gogledd Cymru.
Mae gan Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Meddygon Teulu lleol. Ei nod yw mynd i'r afael ag anghenion staffio gofal iechyd y rhanbarth trwy hyfforddi meddygon yn gyfan gwbl oddi fewn i’r rhanbarth. Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru gyllid i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gyda nifer cychwynnol o 80 o ymgeiswyr, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer yn flynyddol nes cyrraedd uchafswm o 140 erbyn 2029. Bydd y twf cynyddol hwn yn nifer y myfyrwyr yn helpu i sicrhau addysg a phrofiad myfyrwyr o ansawdd uchel trwy brosesau monitro ansawdd y brifysgol a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae sefydlu Ysgol Feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor yn un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i’r sefydliad hwn, ac i iechyd a lles gogledd Cymru ers sefydlu’r brifysgol bron i 140 mlynedd yn ôl. Trwy fynd i'r afael â’r ffaith na chafwyd erioed ysgol feddygol yn y rhanbarth, mae'r datblygiad hwn yn cryfhau ein darpariaeth gofal iechyd yn lleol trwy creu cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â dealltwriaeth o anghenion lleol tra hefyd yn cynyddu nifer y rhai sy'n gallu ymarfer yn y Gymraeg. Bydd yr Ysgol Feddygol hefyd yn rhoi hwb enfawr i’r economi leol ac yn helpu i sicrhau bod pobl Gogledd Cymru yn byw bywydau hwy, iachach a hapusach.
Dywedodd Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor: “Mae hyn yn newid sylweddol i Brifysgol Bangor ac i Ogledd Cymru. Mae tystiolaeth gref bod graddedigion meddygol yn dewis gweithio'n agos at lle buont yn hyfforddi. Bydd sefydlu’r Ysgol Feddygol yn helpu i droi’r gostyngiad yn nifer y meddygon teulu ar ei ben a mynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu ar draws y proffesiynau meddygol yn ein rhanbarth”.
Meddai’r Athro Mike Larvin, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y brifysgol, “Mae ymweliad y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith tuag at sefydlu ysgol feddygol gwbl annibynnol yng ngogledd Cymru. Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a meddygon teulu ar draws gogledd Cymru yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth heb ei ail i’n myfyrwyr meddygol yn y dyfodol, gan eu gwneud nid yn unig yn weithwyr meddygol proffesiynol tosturiol a chymwys, ond hefyd yn arweinwyr GIG y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth ddi-syfl i’n helpu i gyrraedd y garreg filltir hon, ac am y gefnogaeth barhaus y maent wedi cytuno’n garedig i’w darparu i raglen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn y dyfodol".
Ddydd Mawrth, 8 Awst, rhwng 12:30 a 13:45, cynhelir sesiwn am Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael am ein rhaglen Feddygaeth newydd, gan gynnwys arddangosiadau byw a chyfle i gwrdd â staff a gofyn cwestiynau iddynt. Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni a darganfod mwy.
Darllen mwy am ein cyrsiau Meddygaeth newydd:
Darllen mwy am ein cyrsiau Meddygaeth newydd: