Mae gwaith maes wrth wraidd addysgu ac ymchwil yng ngwyddorau’r amgylchedd ond gall fod yn rhwystr i rai myfyrwyr. Mae sicrhau bod addysgu a dysgu, yn benodol gwaith maes, yn hygyrch i bob myfyriwr gan gynnwys y rhai a all fod â rhwystrau megis anawsterau corfforol neu rwystrau anweledig yn hynod bwysig.
Mae cydweithrediad a arweiniwyd gan y daearyddwr ffisegol Dr Lynda Yorke o Brifysgol Bangor gyda Dr Simon M. Hutchinson o Brifysgol Salford a Dr Liz Hurrell o Brifysgol Efrog wedi’i ariannu drwy grant Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) - Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), wedi arwain at ganllawiau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). ‘10 ffordd i wneud gwaith maes yn fwy cynhwysol a hygyrch: arweiniad i addysgwyr’, a gwefan i helpu addysgwyr i gynllunio a chyflwyno addysgu gwaith maes sy'n gynhwysol ac yn hygyrch i bob myfyriwr.
“Dangosodd y pandemig fod y newid cyflym i addysgu ar-lein a defnyddio technolegau digidol yn newid llwyr i lawer a oedd, neu a oedd yn teimlo, wedi’u heithrio o waith maes. Gyda pholisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysoldeb (EDI) yn dod i’r amlwg mewn addysg a gweithleoedd, ni fu erioed amser gwell i fynd i’r afael â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysoldeb mewn gwyddorau’r amgylchedd.“
Ariannwyd y project gan NERC a daeth ag addysgwyr ynghyd ar gyfer hacathon ymchwil (Chwefror 2022) a gweithdy (Mai 2022) i gydweithio a thrafod sut i chwalu’r rhwystrau y mae llawer o fyfyrwyr yn eu hwynebu mewn gwaith maes. Un o ganlyniadau allweddol y project oedd y llyfryn '10 ffordd i…' sy'n nodi ffyrdd o helpu i sicrhau bod addysgu yn y maes mor gynhwysol ac mor hygyrch ag sy'n rhesymol ymarferol. Mae’r arweiniad yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â llesiant staff a myfyrwyr, costau ariannol, crefydd, rhywedd, llety, a lleoliadau maes. Yn ogystal, mae’r wefan yn canolbwyntio’n ehangach ar ddefnyddio technoleg ddigidol i wella’r addysgu a’r gwaith maes a ddarperir, gan rannu straeon am arfer da a chyngor ar sut i sicrhau cynwysoldeb a hygyrchedd i bob myfyriwr, ac mae’n darparu adnoddau i wella a deall yn well y materion sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysoldeb a gwaith maes.
Dywedodd Dr Liz Hurrell, Cyd-Ymchwilydd, Prifysgol Efrog “Er bod y ffocws ar waith maes israddedig, rydym yn gweld hyn yn berthnasol i addysgwyr ym mhobman, boed hynny ar lefel uwchradd neu ymchwilwyr sy’n cynllunio ymgyrch maes”.
Ychwanegodd Dr Simon M. Hutchinson, Cyd-Ymchwilydd, Prifysgol Salford “Rydym wedi cael adborth gwych gan y gymuned academaidd. Mae pawb yn gwybod bod angen i ni fynd i'r afael â chynhwysiant a gwella mynediad yn ein haddysgu maes, ond weithiau dim ond ychydig o ganllawiau syml sydd eu hangen arnom a all fod yn fan cychwyn i sicrhau newid yn ein hymarfer ein hunain.”